|
|
![]() |
Er gwaethaf pwysigrwydd y diwydiant argraffu am ryw 80 mlynedd yn Aberdâr, does yr un o’r argraffdai enwog oedd yn arfer cyhoeddi papurau o bwys megis ‘Y Gwron’, a ‘Tarian y Gweithwyr’ wedi goroesi. Roedd dirywiad y Gymraeg yn elfen hollbwysig ynglyn â diwedd y diwydiant argraffu o amgylch Aberdâr achos bod yr argraffdai wedi methu ag ymdopi â hynny. Y prif reswm pam nad oes yr un ohonyn nhw i’w gael heddiw yw’r ffaith nad oedd digon o bobl ymroddgar i gymryd lle’r rhai oedd wedi’u sefydlu. Dynion gweithgar o argyhoeddiad oedd y rheiny, a’u bwriad oedd cyhoeddi papurau newydd er mwyn addysgu’r werin bobl yn hytrach na sefydlu gwasg fasnachol. Pan fuon nhw farw, bu farw hefyd y mynd a’r brwdfrydedd oedd wedi gyrru argraffdai Aberdâr i’r brig. Cymaint oedd eu dylanwad ym 1867 fel dywedodd rhywun yn Aberdâr: ‘ein barn ni heddiw fydd barn cymru yfory’ |