|
|
![]() |
Fe fuodd yn cynnal y swydd am ddegawdau nes i olygydd arall o fri, Gwyn Prosser, gymryd yr awenau. Dan ofal Prosser, daeth y Leader yn rhan o gwmni Thomson Regional Newspapers ym 1965 ar ôl dros 60 mlynedd dan berchnogaeth breifat. Symudodd y perchnogion newydd y gwaith argraffu i Ferthyr Tudful ym 1969. Ar ôl cyfnod Gwyn Prosser bu Glyn Griffiths ac, wedyn, Rowland Davies oedd yn wyr i un o berchnogion gwreiddiol y papur yn olygyddion. Ymhlith y golygyddion diweddar mae Linda Morgan, y ferch gyntaf i Iywio papur newydd yn y deheubarth. Fe fuodd newidiadau eraill hefyd. Yn y 1990au, cymerodd y papur yr enw ‘The Cynon Valley Leader’ er mwyn adlewyrchu’r bwriad i drin a thrafod straeon o bob cwr o’r cwm. Yn y 1990au, dilynodd y papur y duedd ddiweddaraf trwy ddefnyddio argraffydd lliw wrth iddo gofleidio manteision y dechnoleg newydd.
|