|
|
![]() |
Cafodd ‘The Aberdare Leader’ ei sefydlu ym 1902 gan William Pugh a John Lewis Rowlands, dynion ifainc roedd llenyddiaeth y Saesneg yn agos at eu calonnau nhw. Yn eu herthygl olygyddol gyntaf, dywedon nhw y byddai’r papur yn addysgu’r werin parthed dyletswyddau a breintiau’r dinesydd ac yn eu hannog nhw i gymryd diddordeb brwd a gweithredol mewn materion oedd yn berthnasol i’w lles yn y gymdeithas’. Dim ond 1,000 o gopïau a argraffon nhw ar gyfer y rhifyn cyntaf, ond fe gododd hynny o 500 yr wythnos ganlynol wrth i’r papur ennill ei blwyf bron yn syth. Erbyn diwedd 1902, roedden nhw’n gwerthu 3,200 o gopïau ac yn gallu prynu’r ‘Aberdare Times’ oedd yn edwino erbyn hynny. Ymddangosodd nifer o gystadleuwyr, gan gynnwys y ‘Cynon Chronicle’ a barodd ond ychydig o fisoedd ym 1915 a phapur cymharol Iwyddiannus o’r enw ‘The Aberdare and Mountain Ash Weekly Post’ a gafodd ei sefydlu ym 1906 ac a oroesodd tan 1919 pan gafodd ei brynu gan berchnogion ‘The Aberdare Leader’. Yn sgïl ‘The Aberdare Leader’, daeth atodiad o’r enw ‘The Mountain Ash Leader’ wrth i’r papur ddechrau trafod straeon o lecynnau isaf y cwm fwyfwy.
|