Panel: Home | 1 | 2 | 3 | 4 | 5 | 6 | 7 | 8 | 9

Ym 1875, cafodd ‘Tarian y Gweithiwr’ ei sefydlu. Dyma’r papur cenedlaethol pwysicaf a mwyaf llwyddiannus i gael ei argraffu yn Aberdâr erioed.

Tri gweithiwr o swyddfa Walter Lloyd sefydlodd y papur, gyda’r nod o amddiffyn hawliau’r gweithiwr, er bod bwriad i gyhoeddi erthyglau a fyddai’n diddanu hefyd. Erbyn troad yr ugeinfed ganrif, roedden nhw’n gwerthu 15,000 o gopïau'r wythnos.

Hyd yn oed adeg ei anterth, fodd bynnag, roedd modd gweld na fyddai’r papur yn goroesi achos bod y Gymraeg yn graddol golli’i thir yn y cymoedd. Yn ogystal â hynny, roedd nifer o bapurau ‘sosialaidd’ newydd oedd yn cynnig safbwynt mwy radical i’w darllenwyr. Erbyn hynny, wrth gwrs, roedd ‘Y Darian’ eisoes wedi diogelu ei le yn hanes y Blaid Lafur yn y deheubarth.

Ym 1911, cafodd y wasg ei gwerthu i berchnogion ‘The Aberdare Leader’ ac fe fuodd y ddau bapur yn cael eu hargraffu yn swyddfa’r Darian am gyfnod. Newidiodd y perchnogion enw’r papur i ‘Y Darian’ a dechrau anelu at ddarllenwyr a chanddyn nhw fwy o ddiddordeb mewn pynciau diwylliannol nag yn y rhai cymdeithasol.

Fe ddaeth ffrwydrad radicalaidd olaf y papur yn ystod y Rhyfel Mawr, pan oedd yn enwog am ei safbwynt yn erbyn y rhyfel. O ganlyniad, roedd trigolion yr ardal yn bygwth llosgi’r swyddfa a dechreuodd cylchrediad y papur ostwng fwyfwy nes iddo gau am byth ym 1934.