|
|
![]() |
Cyn hir, fe aeth y ddau bapur yn elynion pennaf, gan ymosod ar ei gilydd mewn modd tebyg i’r wasg boblogaidd heddiw. Roedd agwedd broffesiynol ‘Y Gwladgarwr’ yn drech na hen arferion ei gystadleuydd, fodd bynnag. Oherwydd llwyddiant ‘Y Gwladgarwr’, newidiodd JT Jones arddull ‘Y Gwron’ a sefydlu fersiwn mwy ysgafn, sef ‘Y Gweithiwr’. Roedd yr ymdrech yn ofer, fodd bynnag, ac er i’r perchennog geisio adfer y sefyllfa trwy uno’r ddau bapur, roedd e wedi rhoi’r ffidil yn y to erbyn diwedd 1861. Er gwaethaf methiant ei bapurau Cymraeg, doedd JT Jones ddim am roi’r gorau i’w freuddwyd ynglyn â grym y wasg. Ym 1861, sefydlodd ‘The Aberdare Times’ yn olynydd Saesneg ei iaith i ‘Y Gwron’ gan anelu at gynulleidfa ehangach ledled y deheubarth. Ar ben hynny, sefydlodd bapur crefyddol a theuluol i’w gyhoeddi bob pythefnos - ‘Y Twr’ - ym 1870, ond daeth hwnnw i ben hefyd ar ôl iddo fe farw ym 1873. Dechreuodd ‘The Aberdare Times’ ddirywio yn sgîl marwolaeth ei berchennog. Roedd diffyg cyfeiriad yn ei gynnwys ac, yn raddol, fe ddaeth e’n fwyfwy plwyfol. Diflannodd y papur ym 1902 ar ôl iddo gael ei brynu gan bapur wythnosol llwyddiannus o’r enw ‘The Aberdare Leader’. Er bod ‘Y Gwladgarwr’ yn bapur llwyddiannus dros ben, fe gaeodd yn sydyn ym 1883 o ganlyniad i farwolaeth ei berchennog, Walter Lloyd, oedd wedi prynu’r papur oddi wrth ei sefydlwr, Abraham Mason. Fe fuodd y siop argraffu ar agor dan yr enw ‘Swyddfa’r Gwladgarwr’ hyd at y 1920au, fodd bynnag. Roedd ‘Y Gwron’, ‘Y Gweithiwr’, ac ‘Y Gwladgarwr’ yn cyflawni swyddogaeth bwysig ynghylch dylanwadu ar farn y cyhoedd yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Erbyn yr 1870au, fodd bynnag, roedd sefyllfa wleidyddol y wlad wedi dechrau newid ac roedd angen papur mwy radical ar gyfer gweithwyr oedd yn fwy effro i faterion cymdeithasol a gwleidyddol nag erioed, yn enwedig y glowyr.
|