Panel: Home | 1 | 2 | 3 | 4 | 5 | 6 | 7 | 8 | 9

Serch hynny, roedd sawl masnachwr arall a chanddo ddiddordeb ym mhosibiliadau argraffu ac yn fodlon cerdded yn ôl ei draed trwy sefydlu argraffdy newydd.

Ym mis Mai 1858, fe welodd papur wythnosol newydd o’r enw ‘Y Gwladgarwr’ olau dydd.  Ceiniog oedd cost y papur wyth tudalen oedd yn gysylltiedig â ‘mudiad diwylliannol’ - a hwnnw wedi’i seilio ar y cysyniad o wladgarwch a rhinweddau’r Cymru.

Y postfeistr lleol, William Morris, oedd yn argraffu’r papur ar ran un o’r sefydlwyr, Abraham Mason.  Un arall oedd yn ymwneud â’r papur oedd William Williams ‘Carw Coch’, perchennog y Stag Inn yn Nhrecynon.  Roedd e eisoes wedi amlygu’r awydd i hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant trwy gynnal eisteddfodau yn ei dafarn.

Roedd gan y papur syniadau penodol am rinweddau gwladgarwr, gan ystyried ei wrthwynebwyr yn ‘…dynion dideimlad, culfrydig a chrintachlyd - dynion heb fawr ddim tân yn eu boliau nhw’.

Yn un o’i lithiau golygyddol cyntaf, dywedodd y papur ei fod yn benderfynol o gefnogi’r ‘rhai sy’n caru rhyddid dinesig a chrefyddol yn y wlad yma a ledled y byd’, ‘ymgyrchu yn erbyn pob trais ac anghyfiawnder’ a ‘hyrwyddo llên, dysg, celf, gwyddoniaeth a daioni’.

Roedd y golygyddion yn falch iawn o’u hannibyniaeth nhw, gan addo na fyddai neb yn elwa mewn modd ariannol ar waith y papur.  Eu neges nhw i’r darllenwyr oedd ‘y genedl piau’r papur’ ac, i amlygu eu balchder a’u teyrngarwch, roedden nhw’n arfer rhoi arfbais Tywysog Cymru ar ben pob llith olygyddol.