Panel: Home | 1 | 2 | 3 | 4 | 5 | 6 | 7 | 8 | 9

Roedd y papur yn cynnwys newyddion o dramor a’r DG fel ei gilydd, yn ogystal ag adroddiadau o San Steffan, a’r nod oedd trafod materion gwleidyddol yr oes heb fod yn hyrwyddo unrhyw blaid arbennig.  Y neges i’r darllenwyr yn y rhifyn cyntaf oedd na fyddai’r papur yn ymosod ar neb ac eithrio’r rhai oedd yn ymwneud â gorthrymu, twyll ac anhrefn.  Er gwaetha’r bwriad i fabwysiadu safbwynt diduedd, ymgyrchodd y papur yn erbyn y Torïaid, perchnogion y pyllau glo ac Eglwys Loegr.

Ym 1855, ymunodd y Parchedig Thomas Price, Bedyddiwr a gwleidydd lleol blaengar, â charfan y golygyddion ac, erbyn diwedd 1856, roedd e’n cyhoeddi’r papur bob wythnos. Fe fuodd Price yn un o gyd-olygyddion ‘Y Gwron’ a’i olynydd, ‘Y Gweithiwr’ am bum mlynedd.

Roedd cynnwys y ddau bapur yn cwmpasu amryw bynciau, boed athroniaeth ddwys neu ddarllen ysgafn.  Y brif thema drwyddi draw, fodd bynnag, oedd ‘pwysigrwydd y Gymraeg i ymdrechion y gweithwyr i wella’u byd’.

Ar wahân i’r ddau bapur, roedd gwasg ‘Y Gwron’ ac ‘Y Gweithiwr’ yn arfer cyhoeddi deunydd arall megis taflenni gwleidyddol, gwaith i’r cymdeithasau cyfeillgar, casgliadau o farddoniaeth a llyfrau crefyddol.  Fe fuodd y wasg ar waith dan wahanol berchnogion hyd at 1908.