|
|
![]() |
Roedd y deunydd yn perthyn i ddau faes ar wahân, sef papurau newydd a chylchgronau a chyhoeddiadau crefyddol, er byddai’r ddau ddosbarth yn gorgyffwrdd â’i gilydd yn aml. Cynhyrchu’r rhan fwyaf o’r deunydd yn y Gymraeg ar gyfer holl boblogaeth Cymru oedd yr arfer ond, tua throad yr ugeinfed ganrif, dechreuodd y Saesneg ddisodli’r Gymraeg yn y wasg yn ogystal ag yn y gymdeithas. Mae hanes argraffu yn Aberdâr yn adlewyrchu hanes y Gymraeg yn y dref. Pan ddechreuodd yr hen iaith ddirywio, roedd gostwng cyfatebol ynglyn â faint o ddeunydd oedd yn cael ei argraffu ar gyfer Cymru gyfan. Erbyn y 1930au, Saesneg oedd prif iaith yr ardal a dim ond ar gyfer ei thrigolion roedd cynnyrch y wasg leol
|