|
|
![]() |
Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd newidiadau lu ar droed o amgylch Aberdâr yn sgîl twf y diwydiannau trwm yno ac roedd hynny’n effeithio’n sylweddol ar fywydau’r rhai oedd yn byw ac yn gweithio yng Nghwm Cynon. Ynghyd â thwf y diwydiannau, roedd ymwybyddiaeth gymdeithasol yn dod i’r amlwg fwyfwy. Fe gafodd yr ymgyrch yma hwb yn sgîl adroddiad 1854 Thomas Webster Rammel ar amgylchiadau'r bobl ym Mhlwyf Aberdâr a’r modd roedd Anghydffurfiaeth yn ymledu. Ym 1854 cafodd Bwrdd Iechyd Plwyf Aberdâr a gwasg gyntaf y dref eu sefydlu, hefyd. Nod y bwrdd oedd gwella sefyllfa’r trigolion, a byddai’r bwrdd a’r wasg fel ei gilydd yn hollbwysig ynglyn â datblygu’r dref o hynny ymlaen. Byddai’r wasg oedd wedi’i sefydlu ym 1854 a’r rhai a ddaeth yn ei sgîl yn cymryd rhan flaengar yn hanes cymdeithasol a diwydiannol Cymru a’r Gymraeg hyd at 1930au.
|