Wales Modern
28 Mai – 16 Gorffennaf 2005
Bwriad e-gylchlythyr ModernCymru a gafodd ei greu gan yr arlunydd o Gymro, Robert Alwyn Hughes, yw rhoi gwybodaeth ar gyfer orieliau a chasglwyr trwy sôn am waith a syniadau arlunwyr o Gymry ac arlunwyr sy’n gweithio ac yn byw yng Nghymru. Mae e-gylchlythyr ModernCymru wedi bod yn sôn am brif arddangosfeydd a digwyddiadau’r blynyddoedd diwethaf hyn.
E-gylchlythyr ModernCymru ydy tarddiad arddangosfa ModernCymru.
Bydd ModernCymru yn cynnal ei arddangosfa gyntaf o weithiau gan rai o’r arlunwyr hynny sydd wedi cael amlygrwydd yn yr e-Gylchlythyr. Chris Wilson, Swyddog Amgueddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fydd y curadur ar gyfer yr arddangosfa.
Ymhlith yr arlunwyr sy’n arddangos eu gwaith yma mae Iwan Bala, John Selway, Kevin Sinnott, Ivor Davies, Catherine Roche, Glyn Jones, Tony Goble, Peter Nicholas, George Little, Lois Williams, Jean Walcot, Ceri Thomas a Robert Alwyn Hughes.
www.walesmodern.co.uk
|