Previous | Home | Next

       

 

The Valleys – Anthony Stokes
24 Mawrth– 12 Mai 2007

Mae Anthony Stokes wedi cymryd cymoedd diwydiannol y De yn ysbrydoliaeth i’w waith, o orllewin Castell Nedd i ddwyrain Glyn Ebwy – ar hyd Ffordd Blaenau’r Cymoedd - yn ol i’r ffin ffug ddeheuol sy wedi’i chreu gan y M4. Dewiswyd y gwaith sy’n cael ei arddangos o blith miloedd o luniau a dynnwyd ers sawl blwyddyn gan yr arlunydd.

Ysgrifenna Anthony Stokes: - 'Dim ond ryw syniadau ynglyn a chwaeth dda confensiynol, neu ragfarn arfordirol, sy’n gallu cuddio rhyfeddodau’r Cymoedd. Ydych chi’n gallu ymddiried mewn llun neu ddisgrifiad geiriol i ddweud y gwir?'

Yn amlach na pheidio, mae’r Cymoedd yn cael eu portreadu’n llwyd; mae lluniau Anthony Stokes yn dangos bro unigryw mewn lliwiau moethus, lle mae hanes trefweddau’r Cymoedd wedi’i orchuddio â degawadau o newidiadau.

‘Arddangosfa symudol o luniau, wedi’i dechrau yn Amgueddfa ac Oriel Cwm Cynon, gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru yw ‘The Valleys’.