Previous | Home | Next

Strange Entertainment – David Alun Atkins
20 Mai – 8 Gorffennaf 2006

Ganed David Alan Atkins, y gwneuthurwr printiau, ym Manceinion. Cafodd ei hyfforddiant yn Ysgol Gelf Manceinion, Coleg Celf Rochdale a Phrifysgol Morgannwg. Mae’n gweithio ym Meisgyn bellach. Mae Alan wedi arddangos ei waith mewn orielau ar hyd a lled y Deyrnas Gyfunol ac mae peth o’i waith wedi ymddangos mewn nifer o gyhoeddiadau hefyd. Mae ei waith yn rhan o nifer o gasgliadau personol a chyhoeddus yn y Deyrnas Gyfunol, Awstralia, Yr Amerig a Chanada.

Mae Alan yn nodi bod y rhyfedd, y grotésg a’r swrëal yn dylanwadu ar ei waith ynghyd â hiwmor du. Mae Bosch, Breugel a Goya wedi dylanwadu arno ynghyd â darluniadau Brian Froud ac Ian Miller; llyfrau Jack Vance, Mervyn Peake, Terry Pratchett; dramâu Shakespeare ynghyd â ffilmiau Tim Burton a Terry Gilliam. Mae Macbeth yn cwrdd â Gormenghast ar set Time Bandits tra bod Punch a Judy yn chwarae i’r dorf ... dyma adloniant rhyfedd heb os nac oni bai!

Mae Alan yn gweithio ar amryw o gynlluniau newydd ar hyn o bryd gan gynnwys ‘Lyrical’ – cyfres o brintiadau wedi’u seilio ar eiriau ei hoff ganeuon; ‘Punch and Judy – A Tragedy’ – sef cyfres o brintiadau yn portreadu addasiad o’r chwedl wreiddiol a ‘Bard Intentions’ cyfres sy’n portreadu detholiad o waith Shaespeare.