Previous | Home | Next

 

   

Innocent Asia -Tibet
Robin Maggs
25 Ebrill - 13 Mehefin

Mae’r arddangosfa hon yn cyflwyno corff o ffotograffiaeth ddogfennol, cewch ynddi gyfle i weld wynebau, hen gynefin, a phensaerniaeth y Tibetiaid yn eu gwlad frodorol. Mae’r detholiad hwn o ddelweddau yn rhoi gweledigaeth gyfareddol o’u ffordd o fyw, eu cymeriad heddychlon, a’r oleuedigaeth sy’n nod i’w bywyd ysbrydol. Dyma ddatganiad croyw o blaid cenedl i ryfeddu ati.

Tiriogaeth goll yw Tibet i lawer o bobl, gwlad y copaon penwyn ynghudd ymhlith mynyddoedd mawreddog yr Himalaya - ers oesoedd maith, mae gwlad Tibet a’i thrigolion yn taflu rhyw swyn hudol ar ein dychymyg ni yma yn y Gorllewin. Dyma deyrnas gyfriniol y Bwdhyddion, sy’n enwog am ddiwylliant unigryw ei phobl. Dyma hwy yn eu bröydd diarffordd, y gwastadeddau uchaf yn y byd.

Caled yw cynefin Tibet, yn greigiog ac yn anial, ymhell uwchben y cymylau. Bu byw yno o ddydd i ddydd yn her erioed, o gychwyn hanes. Dyma ‘do y byd’, yn ôl rhai. Mae’r wlad wedi cyfareddu llawer o estroniaid erioed. Ble bynnag ewch chi yn Lhasa, y brifddinas, mae muriau gwyn a melyngoch Palas Potala yn denu eich llygaid. Yno roedd pencadlys llywodraeth Tibet gynt, ac yno hefyd y câi’r Dalai Lama, brenhinoedd ysbrydol Tibet, eu claddu. Gyda chynifer o’r Tibetiaid yn byw yn alltudion bellach, at y Palas hardd hwn y bydd eu meddyliau yn troi wrth iddynt frwydro dros ryddid a hunanlywodraeth.

Mae nifer o wledydd yn y rhan hon o’r byd yn gorfod ymdrechu i gadw eu diwylliant wrth symud gyda’r oes. Ond mae pobl Tibet yn wynebu ymgyrch barhaus i’w hamddifadu o’u diwylliant hwy. Mae pobl Tibet, yn eu hunigeddau oer ac anial, yn hen gyfarwydd â chaledi. Heddiw, mae gorthrwm y goresgynwyr Sineaidd yn dryllio’u ffordd o fyw yn fwyfwy o ddydd i gyd. Eto i gyd, prin fod pobl yr un mor wylaidd a heddychlon i’w cael ar wyneb Daear. Tu ôl i’w hwynebau caredig a’u llygaid chwilfrydig, mae atgof am ddioddefaint, profiad o’r caledi sydd ohoni, ac ansicrwydd am yfory.

Meddai’r Dalai Lama, sydd bellach yn byw’n alltud yn nhref Dharamasala, yr India:
“Dydy pwnc Tibet ddim hanner mor syml ag y bydd rhywrai yn mynnu. Rwy’n credu fod llawer o bobl yn dal i gamddeall diwylliant Tibet a beth sy’n digwydd tu fewn i’r wlad - a’r tu allan iddi, o ran hynny. Dyna pam rwy’n croesawu pob cyfle i bobl sydd â meddwl agored i ddarganfod drostyn nhw’u hunain beth yw gwir sefyllfa Tibet.”
Y Dalai Lama, Medi 15fed 2004

Hoffech chi ragor o wybodaeth am adfyd Tibet a’i phobl? Croeso i chi edrych ar wefan yr ymgyrch ryngwladol dros Tibet: - www.savetibet.org

Hoffech chi ragor o wybodaeth am y Dalai Lama a Llywodraeth Alltud Tibet? Dyma’u gwefan: www.tibet.com