Yn OL– Rhodri Jones
15 Gorffennaf – 16 Medi 2006
Cafodd Rhodri Jones ei eni ym mhentref Sling yng Ngwynedd. Cymro oedd ei dad ac roedd ei fam o Lwcsemburg. Gadawodd e Gymru yn 1982 a theithio’n eang ar hyd a lled Ewrop, De’r Amerig a Dwyrain yr Affrig.
Dechreuodd Rhodri weithio’n ffotograffydd proffesiynol ym 1989 pan oedd e yng Nghanolbarth yr Amerig. Mae e wedi gweithio ar gynlluniau ffotograffi ar draws y byd i gyd. Mae llawer o bapurau newydd mawr, mudiadau sy ddim yn cael eu hariannu gan y llywodraeth, cylchgronau a chyhoeddwyr ar draws y byd wedi defnyddio’i waith. Mae Rhodri’n gweithio yn yr Eidal ar hyn o bryd ac mae papur mwyaf blaenllaw yr Eidal, Corriere della Sera, yn cynnwys ei waith yn rheolaidd.
Ei famwlad yw canolbwynt ei brosiect diweddaraf sy wedi’i gyfansoddi gydag un llygad ar fyd celf tra bo’r llall yn cymhwyso ei fedrau dadansoddi craff i’r pwnc dan sylw.
Mae ei arddangosfa Return / Yn Ol yn ddogfen unigryw sy’n fyfyrdod dwysbigiol ond cadarnhaol ar fywyd cyfredol yng Nghymru o safbwynt Cymro sy wedi treulio’r rhan fwyaf o’i fywyd oddi cartref ac ymhell o’i gartref ysbrydol. Mae’r gwaith yn fyfyrdod personol ar y thema ‘Hiraeth yn ogystal’. Mae Rhodri’n defnyddio lluniau i fynegi’i deimladau ynglyn âdychwelyd i Gymru i weithio. Mae e’n cyfansoddi lluniau barddonol sy’n delyneg i’w gartref. Rydyn ni’n cael cyfleoedd i weld y cyffredin a’r anghyffredin mewn modd newydd yn yr arddangosfa. Trwy ddefnyddio delweddau du a gwyn mawr a thrawiadol mae Rhodri wedi creu teyrnged urddasol a theimladol i’w wlad enedigol.
www.rhodrijones.com
|