Carolyn Little & Elizabeth Barratt
23 Medi – 11 Tachwedd 2006
Ganed y ddau artist yn Abertawe yn 1943 a meithrin cyfeillgarwch tra oedden nhw’n astudio yng Ngholeg Celf Abertawe yn y 1960au. A’u gyrfaoedd yn cydredeg ers hynny, maen nhw wedi cefnogi’i gilydd a bod yn gefn i’w gilydd i ddatblygu ffyrdd unigryw o fynegi’u hunain – Elizabeth wedi canolbwyntio ar y ‘ffurf’ a Carolyn ar y difywyd. Er bod y ddwy wedi cynnal nifer o arddangosfeydd ledled y Deyrnas Gyfunol, dyma’r tro cyntaf iddyn nhw arddangos ar y cyd.
‘Wrth baentio llun o’r ‘ffurf’ o flaen drych, mae’n amhosib anwybyddu’r adlewyrchiad sy’n chwarae rhan mor hanfodol yng nghyfansoddiad y llun. Rydw i’n cael fy nenu at yr adlewyrchiad. Dyma gyfle imi bwyso a mesur natur y gwir’.
Elizabeth Barratt, 2006.
‘Mae fy mhrif ddiddordeb yn gorwedd yn nwyster y lliw a’i effaith ar y llygad ac o ran emosiwn. I ddweud y gwir, dydy fy ngwaith ddim yn seiliedig ar unrhyw ddelwedd neu fwriad llythrennol – mae’n adlewyrchiad o’r hyn sy’n bosib yn hytrach na’r hyn sy’n bod’.
Carolyn Little 2006.
|