Overland – Martyn Jones
24 Medi - 12 Tachwedd
Mae martyn yn arlunydd cyfoes o Gymru sy’n cael ei gynrychioli gan Oriel Kooywood Caerdydd ac Oriel Robert Steele, Efrog Newydd. Mae’i waith yn cael ei arddangos yn rheolaidd yn y deyrnas ac yn yr Amerig ac mae gyda fe gasgliadau preifat a rhai mewn sefydliadau yn y ddwy wlad.
Mae’i waith presennol yn parhau i archwilio thema ‘Amser a Lle’ ‘Place and Time’. Pan gafodd e ei holi ynghylch ei ddiddordeb yn y thema yma, dywedodd Jones, ‘… rydyn ni yma o hyd… pob un ohonon ni, rhywle neu’i gilydd, ac mae amser yn hollbresennol ac yn ticio’n ddibaid!’
Mae gwaith Jones yn cyfleu amwysedd naturiol, ond mae’r arlunydd yn ein rhybuddio ni, ‘…. ddylai’r amwysedd mae fy ngwaith yn ei ddangos ddim cael ei ddehongli fel petai e wedi’i ddyfeisio mewn unrhyw ffordd. Mae rhwydd hynt i’r gynulleidfa ddehongli pob delwedd.’
Serch hynny, rydyn ni’n cael ein hatgoffa mai ‘dewis yr unigolyn ydy hi’ yn y diwedd.
‘Beth bynnag sy’n digwydd, fodd bynnag, yr her fwyaf i fi fydd fy ngwaith.’
www.martynjonesart.com
www.56groupwales-art.co.uk
|