56 Group Wales
19 Mai – 7 Gorffennaf 2007
Sefydlwyd Grwp 56 Cymru ym 1956 gan nifer o artistiaid proffesiynol a sylweddolai mai ychydig o gyfleoedd yn unig oedd ar gael i arddangos gwaith celf cyfoes yng Nghymru.
Ers hynny mae'r Grwp wedi arddangos gwaith cyfoes yn gyson trwy Gymru, gweddill yr Ynysoedd Prydain ac Iwerddon, yn Ewrop a Gogledd yr Amerig.
Mae ei aelodaeth, a gyfyngir i 22 o artistiaid, wedi cynnwys nifer o artistiaid a gydnabyddir yn genedlaethol a thramor sydd wedi galluogi'r Grwp i arwain y ffordd i gyflwyno celfyddyd gyfoes yng Nghymru ac i'w gydnabyddiaeth dramor.
www.56groupwales-art.co.uk
|