Previous | Home | Next

Art Evolution – Antonio Perez Melero
21 Ionawr – 18 Mawrth 2006

Cafodd Antonio Perez Melero ei eni yn Sbaen. Mae e’n arlunydd byd-enwog a gychwynnodd ar ei yrfa yn Feneswela, le buodd e’n byw o’r 1950’au hwyr tan yr 1980’au cynnar.

Mae Antonio Perez Melero yn cynnal gweithdai yn Caracas ac Efrog Newydd, ac yn arddangos ei waith ar draws y byd. Mae modd ichi weld ei waith mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus gan gynnwys yn Amgueddfa Celf Gyfoes Sbaen ym Madrid, Amgueddfa Clef Gyfoes Bogata, Polygram Records, Efrog Newydd, y White House Collection, Sefydliad Penseiri America, Cofeb America ar gyfer y Menywod a oedd yn filwyr ym Mynwent Genedlaethol Arlington, Washington a Llyfrgell Arlywyddol William J. Clinton.

Gweithiau tri dimensiwn wedi’u hadeiladu’n bennaf o bren, papur, cynfas a phaent acrylig ydy fy ngwaith i. Mae nifer o’u nodweddion yn debyg i bensaernïaeth oherwydd maen nhw wedi datblygu o gysyniad celfydd a wireddwyd trwy grefft ddisgybledig. Rydw i’n cynllunio pob cam o’m gwaith i yn fanwl ac yn ofalus iawn.

www.perezmelero.com

 

 

v