Previous | Home | Next

 

   

Inside and Out
Dilys Jackson
7th Mawrth - 18th Ebrill

Mae gwaith Dilys Jackson yn seiliedig ar ei hamgylchfyd mewnol ac allanol. Mae hi’n gweld cydberthynas cinesthetig rhwng y tir neu blanhigion a’r corff dynol. Mae’r darnau arbennig yma’n atseinio llethrau euraidd cymoedd y De a’r dyfroedd gwyllt sy’n tarddu yn eu sgil. Mae deunyddiau’r gwaith o bwysau a o bresenoldeb cynhenid, ond mae ymdeimlad o fas a lle hefyd sy’n deillio o’r prosesau sy’n debygol o wedi’u ffurfio nhw. Mae gan bob darn o waith elfennau o fas, rhaniad a gwedd wrthgyferbyniol. Maen nhw’n ymgorffori’r cydbwysedd rhwng pwysau a rhydau pwysedd, rhwng ffurf y corff dynol a’r gofod mewnol ac allanol.

Mae Jackson yn byw yng Nghaerdydd ac mae hi’n gweithio yn Stiwdios Butetown Artists Studios a Gweithdy Berllanderi Sculpture Workshop. Mae hi wedi teithio a gweithio pedwar ban byd. Mae hi wedi arddangos ei gwaith mewn arddangosfeydd yng Nghymru, Iwerddon, Sweden, Ffrainc, Sbaen a’r Unol Daleithiau. Mae hi’n aelod etholedig o The Royal British Society of Sculptors, yn aelod o 56 Group Cymru, Y Gr?p Cymreig, Sculpture Cymru, Women's Arts Association a Chymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru.

"Dilys Jackson is one of Wales' most daring artistic explorers. The book, Dilys Jackson Sculptor, offers an insight into the humanity and passion, which has always informed the making process of her elegant but austere abstractions."
Robert McDonald

Detholiad o Arddangosfeydd / Comisiynau
2000 Copper Mill Millennium Sculpture:
Greenfield Valley, Sir y Fflint
2003 Solo: Oriel Y Bont,
Prifysgol Morgannwg, Pontypridd
Solo: New Hall, Caergrawnt
2004 Bretanya Catalunya Galles:
Landivisau, Barcelona,
2005 Crossing Over: Waterford,
Iwerddon ac Aberystwyth
2006 Symposium: Cast Iron Sculpture:
The Gallery, Cowcross St, Llundain
2007 Female Frame: The Art Shop Gallery, Y Fenni
2008 Hiraeth: Otzenhausen, Llundain, Y Barri

Mae modd gweld ei gwaith yn:
Oriel The Kooywood Gallery, Caerdydd, Cymru
Oriel Campden Gallery, Chipping Campden, Lloegr

Gwefan: www.dilysjackson.co.uk
Ebost: dilysjackson@yahoo.co.uk

Dilys Jackson: Sculptor ISBN 0-9544439-0-X