|
de.li.ne.a.vit - Gwneuthurwr printiau ac arlunydd yw David Alan Atkins, y Meisgyn. Cafodd ei eni ym Manceinion, a derbyniodd ei hyfforddiant yn Ysgol Uwch Gelf Manceinion, Coleg Celf Rochdale, a Phrifysgol Morgannwg. Mae Alan yn nodi bod y rhyfedd, y grotésg a’r swrëal yn dylanwadu ar ei waith ynghyd â hiwmor du. Mae Bosch, Breugel a Goya wedi dylanwadu arno ynghyd â darluniadau Brian Froud ac Ian Miller; llyfrau Jack Vance, Mervyn Peake, Terry Pratchett; dramâu Shakespeare ynghyd â ffilmiau Tim Burton a Terry Gilliam. Mae Alan wedi arddangos ei waith mewn sawl oriel yn y Deyrnas Unedig. Mae’i waith i’w weld mewn nifer helaeth o gyhoeddiadau. Mae’i waith mewn casgliadau preifat a chyhoeddus, ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig ac yn Awstralia, yr Unol Daleithiau, a Chanada. Lluniadu - crefft tynnu lluniau heb baent na chamera: dyma un o ddisgyblaethau sylfaenol celf. Crefft lluniadu a roes wynebau hudolus Leonardo da Vinci, a dwylo weddigar Albrecht Dührer i ni - a Mici’r Llygoden hefyd! Gall lluniadu fod yn hwyl! Deupeth sy’n gyffredin i bob un o’r gweithiau celf yn yr arddangosfa hon. Lluniadau ydyn nhw i gyd, ac mae pob un yn tarddu o ryw ymdeimlad o hwyl. Mae rhai o’r gweithiau yn dilyn rhyw themâu penodol. Roedd rhai o’r lleill bron wedi’u creu’u hunain – roedd yr isymwybod wrth y llyw, a phwl o wallgofrwydd yn y sedd gefn! Mi ges i sbort yn tynnu’r lluniau hyn, ond mae’n amser rhoi d?r i’r hwyatbig, sbo… |