Previous | Home | Next

 

   

The Art of Botanical Painting
Beth Phillip
25 Ebrill - 13 Mehefin

Yn frodor o Aberdâr, aeth Beth Phillip i Ysgol Ramadeg y Merched yno o 1953 i 1960. Enillodd hi Radd Anrhydedd Arbennig mewn Botaneg ym Mhrifysgol Llundain, a Diploma mewn Addysg ym Mhrifysgol Bryste. Addysgu’r gwyddorau biolegol oedd ei gyrfa, ac ym 1969 fe gyhoeddodd hi fonograff gyfeirio o’r enw ‘The Bacteria’. Bu hi’n Bennaeth Cwnsela Gyrfa yn Ysgol Brydeinig Brwsel, Gwlad Belg, cyn symud i’r Unol Daleithiau ym 1989. Treuliai hi amser yno yn gwneud gwaith gwirfoddol gyda Gwarchodfa Brandywine, Pensylfania. Roedd hyn yn gyfle iddi ddod yn gyfarwydd â’r planhigion brodorol. Cafodd y gwaith o baentio darluniau ar gyfer llawlyfr adnabod hadau blodau gwyllt. Dychwelodd Beth a’i gwr i’r Deyrnas Unedig yn 2004. Maent yn byw yn Kemerton, Swydd Gaerloyow.

Arddangosfeydd
Bu nifer o arddangosfeydd unigol o waith Beth, a hithau’n byw yn yr Unol Daleithiau. Ymhlith y rhain roedd un yng Ngardd Fotanegol Missouri, St. Louis, ac un yng Ngardd Fotanegol Dinas Kansas.

Arddangosfeydd Celf Cenedlaethol â Rheithgor
Gardd Fotanegol Chicago, 1997; Gardd Fotanegol Denver, 1998; Gerddi Longwood, Pensylfania, 1998; Arddangosfa Flynyddol Cymdeithas Arlunwyr Botanegol, Neuadd Westminster, Llundain, 2006, 2007, 2008; Arddangosfa’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol yn Gardeners’ World Live, Birmingham, 2008.

Cymdeithasau
Cymdeithas Arlunwyr Botanegol, Cymdeithas Arlunio Planhigion Palas Hampton Court, Cymdeithas Arlunwyr Botanegol America, Cymdeithas Arlunwyr Botanegol Swydd Gaerwrangon, a Chymdeithas Swydd Gaerloyw er Darlunio Botanegol.

Gwobrau
Dyfarnodd y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol Fedal Aur i Beth yn 2008 am ei phaentiadau a’i hastudiaeth gymharol o fecanweithiau maglu’r ‘Sarraceniaceae’. Yn yr un flwyddyn, derbyniodd hi Ddiploma gydag Anrhydedd mewn Arlunio Botanegol o’r Ysgol Garddio Seisnig yng Ngardd Ffisig Chelsea, Llundain. Yn y flwyddyn honno hefyd fe’i derbyniwyd yn aelod o Gymdeithas Arlunwyr Botanegol, ar gorn cyfres o bymtheg darlun a gyflwynodd hi dros dair mlynedd. Dyfarnodd y Llyfrgell Lindley Dystysgrif o Deilyngdod Botanegol yn Arddangosfa Flynyddol Cymdeithas Arlunwyr Botanegol, Westminster, Llundain. Mae’i gwaith hi i’w weld mewn nifer o gasgliadau corfforaethol a phreifat. Mae Beth yn arlunio ar ei liwt ei hun i gwmni cardiau Hallmark ers 1995.