Africa Against All Odds – Glenn Edwards
25 Mawrth – 13 Mai 2006
Llyfr ac arddangosfa sy’n dathlu’r amryfal agweddau ar y cyfandir bywiog a chythryblus hwn. Dyma astudiaeth o gyfandir yr Affrig, y cain a’r cythraul a’r materion mae’n eu hwynebu heddiw ac yn y dyfodol, trwy eiriau a lluniau du a gwyn y newyddiadurwr a’r ffotograffydd enwog Glenn Edwards.
Glenys Kinnock, ASE sy wedi ysgrifennu’r rhagair, ynghyd â thestun ychwanegol gan gyn-olygydd Materion Tramor The Independent on Sunday, James Roberts, a Glenn Edwards ei hun.
Astudiodd Glenn Edwards o dan arweiniad David Hurn o 1983 - 85 – un o ffotograffwyr cwmni cydweithredol Magnum. Bu Glenn yn un o aelodau o staff papur newydd y Western Mail ond gweithio ar ei liwt ei hun bu’i hanes yn ddiweddar - yn tynnu lluniau ar ran papurau newydd a chylchgronau traws Prydain. Yn ogystal â gweithio yn Affrica, mae Glenn wedi gweithio ym Mosnia, yr India, Albania, Latfia a Gwlad yr Iâ. Glenn oedd Ffotograffydd Newyddion y Flwyddyn gwledydd Prydain ym 1998.
Tynnu lluniau i bapur newydd The Independent, yn ystod trychineb newyn Somalia ym 1993, bu Glenn yn yr Affrig gyntaf. Mae e wedi ymweld â’r cyfandir dro ar ôl tro ers hynny, gan weithio yn Namibia, Gambia, Zimbabwe, Tanzania, Cenia, Malawi a Sierra Leone. Mae Glenn wedi teithio i’r Affrig dros 50 o weithiau, gan ymweld ag 16 o wledydd y cyfandir ar ran papurau newydd, cyrff anllywodraethol ac ar gyfer casglu lluniau a thestun ar gyfer y prosiect yma.
www.africaagainstallodds.com
|