Previous | Home | Next

 

   

Priorities
Glenn Edwards
25 Mehefin - 13 Awst 2009

Bydd pobl yn gofyn imi’n aml sut y bydda i’n teimlo ar ôl i mi ddod yn ôl o Affrica wedi cwrdd â phobl a gweld pobl o ddiwylliannau a ffyrdd gwahanol o fyw. Mae wastad yn ddiddorol gweld ymateb pobl pan fydda i’n ateb, fel y bydda i’n ateb bob tro, mewn ffordd bositif er gwaetha difrifoldeb y sefyllfa dwi wedi’i gweld. Mae’n debyg bod pobl yn ffurfio delwedd o Affrica ar sail yr hyn mae’r wasg yn ei bortreadu, ac fel arfer mae’r ddelwedd yn un negyddol. Neu maen nhw’n meddwl am y lle mewn ffordd negyddol oherwydd anwybodaeth neu hiliaeth sydd wedi’u plannu yn eu meddyliau o genhedlaeth i genhedlaeth.

Dyw pobl ddim yn dueddol o gymryd llawer o sylw o ddarlun arall o blentyn sy’n newynu erbyn hyn am eu bod nhw’n blino ar deimlo tosturi. O’r herwydd, dydyn nhw ddim yn gallu deall sut mae pobl yn byw o ddydd i ddydd yn Affrica am eu bod nhw’n colli diddordeb, a thrwy hynny, mae’r delweddau a’r rhwystrau negyddol yn parhau.

Mae’r gwaith yma’n edrych ar ymateb pobl yn Affrica, ac yng Nghymru, pan fyddan nhw’n gorfod ateb cwestiwn syml: Beth yw’r peth pwysicaf yn eich bywyd?

Ydy ein hymatebion ni’n arbennig o wahanol am ein bod ni’n byw ar gyfandiroedd gwahanol? Am fod rhai yn byw yn yr haul a’r lleill yn y glaw (gan amlaf), am fod rhai yn gyfoethog ac eraill yn dlawd, am fod rhai’n wyn ac eraill yn ddu?

Cefais y syniad pan ofynnais i’r cwestiwn i Brifathro yn y Gambia. Gafaelodd yn fy mraich a’m harwain i at bentwr o frics tu allan i’r ysgol. Cododd un o’r brics, a dywedodd ‘dyma’r peth pwysicaf i mi gan y bydd y peth yma’n adeiladu ystafell ddosbarth newydd i 40 o blant’.

Tybed beth fyddai ymateb Pennaeth ysgol yng Nghasnewydd neu Abertawe?
Tynnwyd y lluniau yma mewn arddull vox pop, yn hytrach na thrwy ofyn i gannoedd o bobl a dewis y gorau. Y cyfan wnes i oedd gofyn y cwestiwn i bobl oeddwn i’n cwrdd â nhw, a chofnodi’r atebion. Mae’r bobl o bob oed, gwaith a chefndir yng Nghymru ac yn Affrica.

Ydyn ni’n wahanol? Ydyn ni’n meddwl mewn ffordd wahanol? Ydy’n gwerthoedd ni a’r hyn rydyn ni’n ei garu mor wahanol i’w gilydd fel bod rhaid i ni gadw’r rhwystrau rhyngon ni? Dwi’n meddwl mai NA yw’r ateb! Edrychwch ar yr atebion a phenderfynwch chi.
Astudiodd Glenn Edwards o dan arweiniad David Hurn o 1983-1985 – un o ffotograffwyr cwmni cydweithredol Magnum. Glenn oedd Ffotograffydd Newyddion y Flwyddyn gwledydd Prydain ym 1998.