Previous | Home | Next

 

   

The spirit of sheela and the death of innocence-
Susan Roberts & Judith Beecher
10 Mai - 28th June 2008

Dyma arddangosfa yn edrych ar agweddau gwrthwynebol beth yw ystyr bod yn fenyw. Mae'n waith dwy artist o'r De, Susan Roberts a Judith Beechers.

Bydd gwaith Susan Roberts y dyddiau hyn yn edrych ar y berthynas rhwng portreadu beth yw bod yn fenyw, a chreu'r chwedlau sy'n cyfleu'n lle ni yn y byd. Un o'r ffyrdd mwyaf hynafol o bortreadu benywdod yw'r Síle na gCíoch, sydd o bosibl yn hynach na Christnogaeth. Dyma thema Susan i'r sioe hon.

Ymddengys fod delwedd Síle na gCíoch yn perthyn yn agos at hen gysyniad duwiesau'r Ddaear. Bydd llawer yn ei chysylltu â rhyw, geni, a ffrwythlondeb. Mae'i delwedd yn mynegi'r pethau hyn mewn ffordd eithaf cyhyrog heb ddim swildod. Peth rhyfedd felly yw'i gweld mor aml wedi'i cherfio ar gerrig mewn eglwysi. I lawer yn ein cymdeithas ni, bydd ymdrin â'r agweddau hyn ar fenywdod yn llawer mwy o broblem na phortreadu'r fenyw fel symbol o harddwch. Ei phrif ddiddordeb hi fel artist yw ceisio darganfod ffyrdd o bortreadu'r agweddau eraill hyn ar fenywdod.
Yn ei gwaith diweddar, mae Judith Beecher yn portreadu agwedd ar famolaeth sy'n llawer mwy anodd i'w deall, yn sgil ymchwil diweddar i fabanladdiad.

Mae plant yn rhan o thema fy ngwaith bron bob tro. Dydy'r corff yma o waith ddim yn wahanol. Pan benderfynais i gyntaf edrych ar y rhesymau y bydd rhai mamau yn gadael neu'n lladd eu babanod, dilynais drywydd f'ymchwil i nifer o ddamcaniaethau diddorol iawn. Gwahaniaethau ym mhoblogaethau benywaidd a gwrywaidd y byd oedd sail y cyntaf. Mae'n debyg ein bod ni rhwng 20 miliwn a 60 miliwn o fenywod yn brin. (Mae'n dibynnu ar ba astudiaeth a ddilynwch chi.) Ond nid ffenomen fodern mo hyn. Mae tystiolaeth o famau yn gadael eu babanod yn brae i'r elfennau yng Ngroeg a Rhufain gynt. Yn ôl y gyfraith roedd raid iddyn nhw ladd babanod anffurfiedig. Rwyf eisoes wedi crybwyll Groeg a Rhufain gynt, ond roedd yr arfer yn gyffredin ar draws y byd yn yr hen amser. Mae llawer heddiw yn ei weld yn dull o reoli poblogaeth, gyda lladd merched yn amcan penodol iddo.

Dydw i ddim yn condemio babanladdiad neu erthylu ar sail rhyw o gwbl, na'u cymeradwyo chwaith. Darganfod a yw'r ymddygiad hwn yn naturiol ai peidio: dyna f'awydd pennaf i. Gan hynny, bydd amrywiaeth gyfoethog yn brigo i wyneb fy ngwaith, ond bydd elfennau gadael a gafael, mwytho a meddiannu, i gyd i'w gweld. Mae'r botymau'n cynrychioli babanod a gafodd eu traddodi i amddifatai ac i ysbytai plant caffael. Gwyddai'r mamau fod eu plant yn debygol iawn o farw drwy esgeulustod yno.