|
Poet Portraits - Ganwyd a magwyd Lorraine Bewsey yn Llundain. Symudodd i Gymru gyda’i phartner a’i dau blentyn ac mae hi erbyn hyn yn byw yng Nghwm Tawe. Graddiodd mewn darlunio o Athrofa Abertawe ac mae ganddi hefyd gymhwyster TAR. Bu’n gweithio fel tiwtor a darluniwr llawrydd cyn sefydlu ei hun fel artist portreadol. Mae ‘Portreadau Beirdd’ yn brosiect blwyddyn a ddechreuodd ym mis Tachwedd 2005 i beintio 20 bardd blaenllaw sydd â chysylltiadau cryf â Chymru. Dywedodd, “Dwi am i’m portreadau ddal hanfod personoliaeth y bardd, a chael eu gwerthfawrogi am ansawdd llinellu ac arlliwio. Hoffwn i’r rhai sy’n ymweld â’m harddangosfa deimlo fod sgil artist mewn arlunio a pheintio yn bwysig, a’u bod yn gwerthfawrogi parhad ymdrech artistig dros y canrifoedd.” Mae’r portreadau wedi eu creu mewn pastel, mewn steil mynegiannol unigryw a gor-realistig, sydd wedi derbyn clôd rhyngwladol gan adolygyddion, curaduron a’r beirdd eu hunain. Agorodd arddangosfa Portreadau Beirdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru fis Tachwedd 2006. Mae’r arddangosfa wedi bod ar daith i Gastell Bodelwyddan (Partner Rhanbarthol Oriel Portreadau Cenedlaethol), Oriel Mount Street yn Aberhonddu, a Chanolfan Dylan Thomas Centre yn Abertawe, Cymru House ym Mrwsel, Canolfan Gelf Wrecsam ac Oriel Plas Glyn y Weddw. Mae Lorraine wedi cynnal achlysuron yng Ng?yl Lenyddiaeth y Gelli a Gwyl Jazz Aberhonddu. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth wedi archebu’i phortread o Twm Morys ac mae Cyngor Bwrdeistref Wrecsam wedi archebu’i phortread o Grahame Davies. Mae llyfr cysylltiedig, Poet Portraits / Portreadau Beirdd wedi’i gyhoeddi gan gwmni Seren ac yn cynnwys cerddi a gyfansoddwyd gan y beirdd ochr yn ochr â phortreadau’r beirdd i gyd, ynghyd â chyflwyniad gan Anne Price-Owen a thraethawd gan yr arlunydd. |