Previous | Home | Next

 

   

Nearly There-
Castle Quilters
10 Mai - 28th June 2008

Ers ei gychwyn ym 1984, mae cwiltwyr Castle Quilters wedi goroesi nifer o newidiadau cyn datblygu’n gasgliad gweithredol sydd ohoni. Yn wreiddiol, roedd yr aelodau’n dod o gyffiniau cyfagos Llanfoist, y Fenni ond heddiw maen nhw’n teithio o bellteroedd mawr i fod yn rhan o’r gymuned cwiltio yma.

Rydyn ni’n gylch o grefftwragedd ymroddedig a chrefftus iawn, yn cynhyrchu gwaith er pleser a thrysorau teuluol ar gyfer ein teuluoedd a chyfeillion. Mae’n hoedrannau’n amrywio’n fawr iawn, yn cynnwys babanod cyn y rhyfel, merched ifainc amser rhyfel, crotesi’r chwechdegau hyd at rocesi glam roc. Mae’r cyfan hyn oll yn gymorth i ofalu bod ein sioe yn gymysgedd unigryw o arddulliau, hoffterau a dylanwadau unigol.

Mae rhai o’n haelodau yn hen gwiltwyr o fri yn gwneud cwiltiau traddodiadol, tra bod eraill yn hoff o ddefnyddio’u peiriannau ar gyfer gwaith mwy cyfoes. Serch ehangder y maes, mae’r cyfan wedi’i gynnwys yn yr hyn rydyn ni’n ei alw’n ‘Glytwaith / Cwiltio’ heddiw.

Dros y blynyddoedd, mae cwiltio wedi rhoi pleser mawr i ni yn unigolion ac yn gylch, ac mae wedi caniatau i ni godi miloedd o bunnoedd ar gyfer sawl elusen yn ogystal.

Rydyn ni wedi dewis y gwaith yma i arddangos ystod o fedrau’r aelodau - heriau cynnar cwiltwyr Castle Quilters, rhai o ymdrechion cyntaf aelodau newydd sydd nawr yn falch iawn i’w galw eu hunain yn ‘Gwiltwyr’, gan wybod mai dyma’r grefft ar eu cyfer nhw!

Yn 2009, byddwn ni’n dathlu’n pen-blwydd yn 25 oed, ac felly sy’n ein harwain ni at deitl ein harddangosfa ‘NEARLY THERE’’.