Previous | Home | Next

 

   

The Welsh Quilt Series -
John Uzzell Edwards
22 Mawrth - 3 Mai 2008

Ganwyd John Uzzell Edwards ym mhentre’ glofaol Deri yng Nghwm Rhymni yn y Deheubarth. Mae e’n byw ac yn gweithio yn y mynyddoedd i’r gogledd o Abertawe erbyn hyn.

Mae ei waith yn ymwneud â ‘Phaentio Pur’, nid ‘Creu Lluniau’, ac mae archwilio ffurfiau artistig Cymreig cynnar yn llywio’i waith. Cafodd ei weithiau cynnar eu hysbrydoli gan groesau ac arysgrifau ar feini Celtaidd, teils llawr canoloesol, a llythreniad a thudalennau carped llyfrau crefyddol neu hen lawysgrifau fel Llyfr Du Caerfyrddin. Mae’r dogfennau hyn sydd â phatrymau a llythreniad cymhleth wedi ei atgoffa o orffennol mwy domestig:

Enillodd Gymrodoriaeth Celfyddydau Granada gan Brifysgol Efrog ym 1966. Yn fuan wedyn derbyniodd y Prix de Rome a threuliodd flwyddyn yn yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain. Ym 1988 cafodd ysgoloriaeth deithio gan Gyngor Celfyddydau Cymru i astudio celfyddyd Geltaidd yn Ewrop, ac mae wedi ennill prif wobrau paentio Eisteddfod Genedlaethol Cymru ddwywaith.

Ffurfiodd Edwards gr?p pwysig newydd o arlunwyr Cymreig o’r enw ‘Ysbryd / Spirit Wales’ ym 1998, a’r flwyddyn wedyn cynhaliwyd arddangosfa o’u gwaith yn Oriel Humphries, San Francisco. Ymhlith ei sioeau pwysig eraill mae Arddangosfa’r Mileniwm yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod; Mall Gallery, Llundain yn 2001; Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 2003; Museum of Modern Art yn 2004; G^wyl y Gelli Gandryll ac Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn 2005; Museum of Modern Art yn 2006 a Shoreditch, Llundain yn 2007.

Mae ef wedi cynrychioli Cymru yn y Salon d’Art Ewro-Geltaidd sy’n rhan o’r ^wyl Inter Celtique yn Lorient, Llydaw dair gwaith yn y blynyddoedd diwethaf a bydd ei waith yn dychwelyd i Lorient yn 2008.