Previous | Home | Next

 

   

In Between -
Sarah Alex Carter
15 Tachwedd 2008 - 3 Ionawr 2009

Mae In Between yn archwilio’r syniad
o drawsnewid drwy nerth, pwysedd, erydiad a ffrithiant. Mae metamorffosis a’r broses o newid yn themâu canolog yng ngwaith Sarah, yn ogystal â’i diddordeb mewn ffurfiau organig a naturiol. Mae tynnu llun yn rhan annatod o’i phroses greadigol a dyna’i dewis gyfrwng o greu delweddau. Drwy ddefnyddio marciau abstract a lliw, ei bwriad yw archwilio’r berthynas rhwng dulliau traddodiadol o dynnu llun a dulliau digidol, creu cyfresi o ddelweddau ac ailadrodd. Ffrwyth dwy flynedd o waith yw’r arddangosfa yma sy’n gyfres o luniau, lliwiadau, a delweddau wedi’u trafod yn ddigidol.

Mae Sarah Alex Carter yn artist sy’n dechrau dod i’r amlwg ac mae hi’n byw yn Aberdâr. Graddiodd Sarah â Gradd Dosbarth Cyntaf ag Anrhydedd mewn Darlunio o Goleg Celf a Dylunio Henffordd yn 2000 ac enillodd Ragoriaeth ar lefel Gradd Meistr mewn Cyfathrebu Graffeg o Brifysgol Morgannwg yn 2006. Mae hi wedi arddangos ei gwaith ledled y Deyrnas Unedig ac mae ei gwaith i’w weld mewn casgliadau ar draws y byd.

My work is as much about the process of drawing, the repetition of line and layering of marks, as it is about the subject matter and finished pieces themselves. I use sequence and duplication to depict an abstracted story of alteration, refinement and change. I aim to capture a fleeting moment within the process of transformation and represent this as fragile and ephemeral.