gallery

Previous | Home | Next

 

   

Liquid Light Series - Brendan Stuart Burns
15 Medi - 3rd Tachwedd 2007

‘The Taste of Sight’ yw teitl yr arddangosfa yma. Lliw a sawr y paent, a phrofiad byw cyffwrdd â’r cynfas, dyna fu’n sbardun i lawer o’m gwaith diweddar. Mae symudiadau’r llaw yn gymaint o ran o broses arlunio â’r goleuni yn cyffwrdd â’r llygad. Ni fu’r profiadau yma mor fyw yn unman ag ar lan y môr, a gobeithio y bydd y profiad teimladol yma’n dod drwy’r darluniau yma i gyffwrdd yn uniongyrchol â chi hefyd. Byddant yn crynhoi’r profiad o fyw yn y byd fel bod dynol mewn ffordd ddwys a chyffyrddadwy. Wrth fynd i’r lle mae’r tir a’r môr yn gweu i’w gilydd, byddaf yn dysgu sut i weu profiad o’r gwahanol synhwyrau i’w gilydd. Dyna ffynhonell ysbrydol fy ngwaith: mae f’ymateb i hyn i’w ganfod yn fy narluniau.

Myfyrdodau ar gynfas yw’r darluniau yma. Maen nhw’n gofyn am amser i blymio i ddyfnder eu themâu sylfaenol. Sut byddwn ni’n canfod gofod, yn ein byd yn ogystal ag ar y cynfas? Beth yw’r berthynas rhwng amser a lle? Sut mae cyfleu symud, goleuni, a holl batrymau’r tywydd? Sut mae osgo, y trem sydyn, a chysgodion atgof yn llunio’n gweledigaeth ni? Mae hi’n ddadl ac, yn wir, yn frwydr o hyd rhwng gweledigaeth y llygad a gweledigaeth y galon. Ffrwyth y ddadl yma yw’r ymdeimlad a gawn o brosesau natur, ym myd bach cudd y galon ac ym myd eang y gorwel draw.

Lluniadu sy’n mynd â’m bryd y dyddiau hyn. Mae’r llinellu celfydd a chywrain yn rhan o’r un gwe â chyffyrddiad a symudiad y paent a’r cwyr. Gadewch i’ch synhwyrau feddiannu popeth sydd yn y darluniau yma. Drwy liw a sawr y paent, cewch chithau gyfle i gyffwrdd â’r goleuni.

Brendan Stuart Burns 2007.

 

Cafodd Brendan Stuart Burns ei eni ym 1963, ac mae’n byw a gweithio yng Nghaerdydd. Bu’n astudio’r Celfyddydau cain yng Ngholeg Celf Caerdydd 1981-1985, a dilyn cwrs arlunio i raddedigion yn Ysgol Gelf Gain Slade, Coleg Prifysgol Llundain 1985-1987. Enillodd Fedal Aur yr Eisteddfod Genedlaethol am Gelf ym 1993 a 1998, a gwobr Arlunydd Cymreig y Flwyddyn yn 2000 a 2003.