David Walsh
12 Chewfror 2005 – 26 Mawrth 2005
Trwy fy ngwaith yn ffotograffydd, rydw i wedi bod yn ffodus iawn yn ddiweddar i gael cyfle i ddogfennu pynciau rwy’n ymserchu ynddyn nhw, sef crefft draddodiadol y ffarier a phrydferthwch tirwedd Cymru.
Mae fy niddordeb yng nghrefft y ffarier yn hanu o’r amser dreuliais i’n bwrw prentisiaeth peirianneg gyda gofaint y cwmni. Mae pwer y ffarrier a’r tringarwch a’r medr sydd ei angen i weithio a siapio’r metel poeth yn dal i’m cyfareddu.
Mae fy niddordeb i ddogfennu tirwedd Cymru yn hanu o’m cariad tuag at yr awyr agored. Monolithau Cymru sy wedi ysbrydoli’r gwaith sy’n cael ei arddangos yma. Mae rhywbeth ysgogol a thragwyddol am y ffordd mae’r cerrig yma yn taflu swyn dros y tirwedd. Mae’r lluniau sydd wedi’u dewis ar gyfer yr arddangosfa yn dangos cofebau o’r oes Neolithic hyd at oes yr haearn 5,000 CC – 100 AD.
Mae David Walsh, peirianydd awyrennau wrth ei alwedigaeth, yn enedigol o Hirwaun, ond mae e wedi byw’r rhan helaeth o’i oes yn Nhrecynon. Yn ddiweddar mae e wedi graddio o Brifysgol Morganwg yn maes Arfer y Cyfryngau.
|