Steven Hopkin Jones
2 Ebrill 2005 – 21 Mai 2005
Dydyn ni ddim fel arfer yn cysylltu delweddau o bydredd a phrydferthwch. Mae’r syniad o flodau’n gwywo yn meithrin pob math o syniadau negyddol. Ond mae lluniau Steven Hopkin-Jones yn troi’r rhagdybiaethau cyffredin yma ben i waered. Mae ei luniau o flodau wedi gwywo yn rhai annisgwyl ac yn ein syfrdanu ni - delweddau o brydferthwch yn rhan o ddinistr.
Dyma luniau o flodau cyffredin yn eu hangau, blodau tiwlip mewn cwlwm tranc – pob un blodyn - sy fel arfer mor debyg i’w gilydd – yn gymeriad unigryw wrth i ffurf haniaethol ddatblygu wrth iddo wywo. Fe ddown â blodau yn i’n ty, dim ond i’w taflu unwaith iddyn nhw wywo. Pa bwrpas sydd i flodau gwyw? Dyna’r sylw mwyaf cyffredin. Ond dyma’r cyfnod ym mywyd y blodyn sy fwyaf deniadol i’r ffotograffydd. “Mae cymeriad yn parhau iddyn nhw, efallai mwy o gymeriad nag erioed”, meddai ynglyn a’i wrthrychau. “Maen nhw fel pe baen nhw’n ymladd i barhau’n brydferth”. Efallai bydd y lluniau yn fodd inni ddechrau gwerthfawrogi’r cymeriad yma y tro nesaf y down ni ar ei draws yn ein bywydau beunyddiol.
Mark Jones
Hanesydd Celf a Newyddiadurwr
Brodor o Gwmaman yw Steven Hopkin-Jones ac yn ffotograffydd sy’n gweithio ar ei liwt ei hun
|