Matthew Wayne a sefydlodd Waith Haearn y Gadlys ym 1827. Cafodd haearn ei gynhyrchu ar y safle yma hyd at 1876.
Bwrwdy'r gweithfeydd oedd ar flaen y safle yn wreiddiol, ond siop trwsio cerbydau a gafodd ei chodi rhwng 1876 - 1879 sydd yno heddiw. Cafodd yr adeilad yma, sydd wedi'i restru yn ôl gradd 2, ei adnewyddu ym 1995 ac mae'n gartref i Amgueddfa ac Oriel Cwm Cynon bellach. Tu ôl i hwnnw mae olion trawiadol y 4 ffwrnais chwyth a gafodd eu hadeiladu rhwng 1827 a 1856. Mae statws heneb wedi'i roi i'r olion erbyn hyn. Dydy’r ffwrnesi ddim ar agor i ymwelwyr ar hyn o bryd.
Ar ochrarall y safle mae t yˆ'r peiriant chwythu a gafodd ei godi ym 1857. Dyma un o'r safleoedd mwyaf cryno a chyflawn o'i fath yn y deheubarth.