EditRegion6
Hafan | Ein hanes | Amgueddfa | Oriel Gelf | Siop | Caffi | Addysg | Digwyddiadau | Achlysuron eraill | Gwaith Haearn y Gadlys | Arddangosfeydd ar-lein | Dolennau cyswllt | Adborth | Cysylltau | Sut i ddod o hyd inni

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau addysg sy’n gyflenwol i ofynion Cyfnod Allweddol 1 a Chyfnod Allweddol 2 y Cwrícwlwm Gwladol.

Mae cyfleoedd drwy’r flwyddyn i ysgolion i gadw lle ar amrywiaeth o weithgareddau ymarferol ar themâu megis “Diwrnod Golchi Mam-gu“ a “Hen Arferion Siopa”.  Rydyn ni’n cynnal wythnosau addysg ac iddyn nhw thema arbennig, gan cynnwys y Tuduriaid a’r Stiwartiaid, y Rhufeiniaid a’r Celtiaid, Bywyd yn Oes Fictoria a’r Ail Ryfel Byd.

Mae modd inni deilwra gweithgareddau i ddiwallu’ch anghenion chi – cysylltwch â’n Swyddog Addysg i gael rhagor o fanylion.  Os ydy’r ysgol yn nalgylch Rhondda Cynon Taf, bydd modd i’n Swyddog Addysg ymweld â chi.  Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth ar gyfer pobl o bob oed a gallu.

Does neb yn rhy hen i fod yngl?n â dysg.  Os ydych chi’n aelod o sefydliad lleol, cylch cymuned neu gylch gwasanaethau cymdeithasol, cysylltwch â’n Swyddog Addysg i drafod eich anghenion chi.  Os ydy’r cylch yn nalgylch Rhondda Cynon Taf, bydd modd i’n Swyddog Addysg ymweld â chi.

I gysylltu â’n Swyddog Addysg ffoniwch 01443 682036 neu glicio ar y cyswllt

Mae modd i ysgolion gael adnoddau ychwanegol trwy gysylltu â Gwasanaeth y Llyfrgelloedd i’r Ysgolion.  I gael rhagor o fanylion, cliciwch ar y cyswllt