CYFANSODDI CWM RHONDDA.
Yn gynnar ym mis Medi 1907, cafodd John Hughes ymweliad gan D.W. Thomas, Trehopcyn, swyddog eglwys y Bedyddwyr Cymraeg yn y dref honno. D.W. oedd ysgrifennydd, codwr canu, ac organydd Capel Rhondda. Fel organyddion a chyd-gerddorion, fe ddaethai’r ddau’n dipyn o ffrindiau. Roedd Capel Rhondda ar fin cynnal ei Chymanfa Ganu flynyddol. Pwy’n well felly na John Hughes i gyfansoddi emyn-don newydd i’r achlysur? Roedd y Gymanfa i’w chynnal ar Dachwedd 1af 1907, a dyma fyddai’r cyfle cyntaf i glywed organ bib newydd y capel.
Mae llythyr yn llawysgrifen ei wraig yn rhoi’r hanes inni. Cyrhaeddodd John adref yn hwyr, a dweud wrthi am ei sgwrs a D.W. Thomas. Eglurodd fod ei gwr wedi aros am ysbrydoliaeth cyn bwrw ati i gyfansoddi. Aeth ychydig wythnosau heibio, tan un bore Sul. Cyhraeddodd John adref o’r cwrdd, a datgan fod yr ysbrydoliaeth wedi cyrraedd.
Yn gwbl groes i’w arfer, collodd John bob gwasanaeth am weddill y Sul honno. Treuliodd weddill y diwrnod wrth y piano yn cyfansoddi, ac roedd y don yn barod i’w chanu. Aeth draw i Gapel Rhondda drannoeth i ddangos Cwm Rhondda i D.W. Thomas a gofyn am ei farn. Bu mab D.W. yn ei chwarae ar biano’r capel.
Derbyniodd D.W. y don yn frwd, a chafodd hi’i chanu’n gyhoeddus yn unol a’r bwriad yn y Gymanfa ar Dachwedd 1af 1907. John ei hun oedd yn eistedd wrth yr organ newydd. Y geiriau ar gyfer y perfformiad cyntaf yma oedd emyn enwog yr emynydd a’r cyfrinydd Ann Griffiths, Wele’n Sefyll Rhwng y Myrtwydd.
Roedd ‘tanbaid fendigaid Ann’ yn frodor o Lanfihangel-yng-Ngwynfa, Sir Drefaldwyn. Fel llawer o’i chenhedlaeth, roedd hi wedi profi deffro ysbrydol dan ddylanwad y Diwygiad Methodistaidd. Aeth rhagddi i gyfansoddi rhai o emynau mwyaf gwerthfawr ein hiaith. Yn wir, maent wedi ennill edmygedd caredigion barddoniaeth grefyddol ar draws Ewrop.
Yn ddiweddarach, gosododd John eiriau Peter Williams Guide Me, O Thou Great Jehovah ar ei dôn. Cyfieithiad oedd y rhain o emyn Pantycelyn Arglwydd, Arwain Trwy’r Anialwch, a welodd olau dydd gyntaf ym 1745,. O hynny ymlaen, byddai lleisiau’r Cymru’n asio’r geiriau a’r dôn a’i gilydd am byth. Bellach, mae Guide Me, O Thou Great Jehovah ar Cwm Rhondda wedi seinio i bedwar ban byd.
William Williams, Pantycelyn, (1717-)1791 oedd emynydd mwyaf Cymru ac un o’r rhai mwyaf toreithiog. Cyfansoddodd gryn 1,000 o emynau, yn Gymraeg gan mwyaf. Yn fab fferm o Gefn-y-Coed, yn ardal Llanymddyfri, roedd Pantycelyn wedi bwriadu mynd yn feddyg. Ond daeth o dan ddylanwad pregethu grymus Howell Harris, un o arweinwyr pwysicaf y Diwygiad Methodistaidd. Pantycelyn oedd enw cartref William Williams, ac wrth yr enw hwnnw rydym yn ei adnabod hyd heddiw.
Guide Me, O Thou Great Jehovah, ar y don Cwm Rhondda, yw’r unig emyn Saesneg gan Pantycelyn a genir yn aml heddiw.
Mae’r emyn yn adrodd profiad yr Hen Genedl yn Llyfr yr Ecsodus wrth iddynt ffoi o’r Aifft. Ar ôl dianc o 430 o flynyddoedd o gaethiwed yn yr Aifft, mae’r Israeliaid yn dilyn Moses drwy’r anialwch tua Gwlad yr Addewid.
Roedd disgrifiad o ddianc o gaethiwed yn taro deuddeg gyda glowyr y De, ac aeth yr emyn ymlaen i ennill lle yng nghalonnau pobl yn yr Affrig ac America. Roedd llawer o Affro-Americanwyr yn gweld eu profiad eu hun yn yr hanes.
Wrth i John Hughes gyfansoddi’r emyn-don, roedd ef wedi’i galw’n Rhondda ar ôl y capel lle cafodd ei chanu gyntaf. Ond, yn ol y son, roedd yr arweinydd corawl enwog Harry Evans (1873-1914) wedi newid yr enw cyn pen blwyddyn.
Er yn frodor o Ddowlais, cawsai Harry Evans ei eni yn yr un flwyddyn â John. Ef, o bosibl, oedd arweinydd a chyfansoddwr enwocaf Cymru yr adeg honno. Awgrymodd ddefnyddio’r dôn mewn Cymanfa Ganu yn Lerpwl yn gynnar ym 1908.
Roedd yn frwd iawn dros y dôn, ond ofnai y byddai pobl yn drysu rhwng hon ac un o waith Moses Owen Jones (1842-1908). Roedd y cerddor dawnus hwn wedi symud i lawr i’r Rhondda o Gaernarfon ym 1862. Cafodd ei ethol yn godwr canu Carmel, Treherbert, a helpodd i sefydlu Côr Meibion Treherbert. Ffurfiodd Moses Owen Jones Gôr Cymysg Carmel hefyd, a hwy oedd y cyntaf i berfformio Messiah Handel yn y Rhondda, ym mis Medi 1876.
Yn ol rhai ffynonellau, Moses Owen a newidiodd y teitl i Cwm Rhondda ar gyfer y Gymanfa Ganu yn Lerpwl, ac ysgrifennu at John ychydig ddyddiau’n ddiweddarach gan argymell taw dyna fyddai orau. Yn ôl ffynonellau eraill, dyna i gyd a wnaeth Moses Owen oedd cynghori’r cyfansoddwr i newid y teitl. Gan fod Trehopcyn ar drothwy Cwm Rhondda, dyma John yn newid y teitl i Cwm Rhondda.
P’un bynnag o’r ddau hanes sy’n gywir, ni fu John Hughes yn hir cyn derbyn y cyngor. Er i fersiwn wreiddiol Rhondda gael ei hargraffu mewn tonig sol-ffa, cafodd y dôn ei hail-enwi yn Cwm Rhondda ym 1908.
|