Y CYD-DESTUN CYMDEITHASOL A DIWYDIANNOL.
Pan gafodd Cwm Rhondda ei chanu gyntaf, glo oedd yn teyrnasu yng Nghymoedd y De. Ac yn y capeli, o’r sêt fawr i’r oriel, canu cynulleidfaol pedair oedd yn teyrnasu. Rhwng 1801 a 1902, roedd poblogaeth y Rhondda wedi codi o 542 i 113, 735.
Y diwydiant glo oedd yn rheoli bywyd gwaith y trigolion, a’r capel oedd y dylanwad cryfaf tu allan i’r gwaith. O’r pwll a’r pulpud y câi’r bobl eu bywoliaeth a’u hysbrydoliaeth. Dyna fan cychwyn olrhain datblygiad cerddoriaeth ymysg y dosbarth gweithiol.
Roedd ysfa’r economi am ‘aur du’ y Cymoedd wedi chwyldro’r ardaloedd bryniog yma. Llifai gweithwyr newydd i mewn yn eu miloedd, a roedd gofyn am godi cartrefi a chymdogaeth newydd iddyn nhw ar frys gwyllt. Codwyd miloedd o derasau cyfyng, undonog ar hyd y llethrau serth, heb ond ychydig o amwynderau ar eu gorau. Roedd bywyd yn y Cymoedd yn llwm iawn – ac yn gallu fod yn ddychrynllyd o fyr hefyd. Gan fod cymaint o bobl yn chwilio am waith, nid oedd y cyflogwyr yn rhoi llawer o werth ar fywydau’r gweithwyr. Rhwng 1868 a 1914, roedd un o lowyr meysydd glo Prydain yn cael anaf difrifol bob dwy awr. Câi un ei ladd bob chwe awr. Roedd glofeydd y De yn fwy peryglus na’u cyffelyb yn unman arall. O ganlyniad, câi glowyr eu hanafu a’u lladd yn amlach yno.
Roedd dioddefaint y bobl yn Oed Fictoria yn erchyll. Byddai llawer o’r plant yn marw’n ifanc ac roedd bywyd bob dydd yn llawn peryglon anhygoel. Collodd llawer eu bywydau mewn damweiniau yn y gwaith, a châi gweithwyr a feiddiai wneud safiad eu llwgu’n ôl i’r gwaith yn aml. Ond o ganol yr holl ddioddefaint y cododd llais y gân.
Yn y gwledydd Celtaidd eraill, mae’r bobl yn hoff o gerddoriaeth o offerynnol ac o ddawnsio. Ond canu sy’n mynd â bryd y Cymry. Canu oedd mynegiant pennaf pobl y Cymoedd – yn enwedig pobl y Rhondda – o’u hunaniaeth. Ni welwn y byth mo’r fath angerdd eto
|