Y Rhondda
Ychydig i’r gogledd o Gaerdydd mae Cymoedd enwog y Rhondda yn gorwedd. Dyma galon y byd diwydiannol ers talwm.
Mewn gwirionedd, mae ‘Cymoedd Rhondda’ yn ddisgrifiad tecach na ‘Cwm Rhondda’, gan fod afonydd Rhondda Fawr a Rhondda Fach ill dwy wedi torri dyffrynnoedd dwfn drwy’r mynyddoedd. Rhyw ddeuddeg milltir o’r gogledd i’r de yw hyd yr ardal, a llai na phum milltir ar ei thraws.
Un o ystyron y gair porth yw ‘mynedfa’. Yn nhre’r Porth mae afon y Rhondda Fach yn llifo i afon y Rondda Fawr. Drwy’r Porth mae rhywun yn mynd i mewn i’r Cwm. I’r de o’r Porth, mae Afon Rhondda yn llifo i Afon Taf, ac yma y tyfodd tref Pontypridd. O ganlyniad i ddatblygiadau diwydiannol Oes Fictoria, daeth ‘y Bont’ yn dref hynod lwyddiannus. Roedd Pont y Ty Pridd yn enw un o bentrefi bach yr ardal. Ar ol i William Edwards godi’i bont enwog ym 1755, daeth yr enw ‘Pontnewydd’ (Newbridge yn Saesneg) yn boblogaidd. Ond Newbridge oedd enw Saesneg tref gyfagos Trecelyn hefyd, ac roedd llawer o lythyrau yn mynd ar goll o ganlyniad. Penderfynodd y Postfeistr fod angen datrys y broblem hon, a daeth ffurf fer o’r hen enw yn swyddogol fel Pontypridd.
Cymdeithas eithaf gwledig oedd Pontypridd a’r cylch ddechrau’r 19eg ganrif. Ym 1801, 542 oedd poblogaeth y Rhondda gyfan. Daeth tro ar fyd ym 1794, pan agorwyd Camlas Morgannwg rhwng Merthyr a Chaerdydd. Dyna pryd y dechreuodd y Bontypridd sy’n gyfarwydd inni ymddangos. Roedd Merthyr wedi bod wrth galon y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru. Oddi yno y deuai haearn gorau’r byd. Roedd angen glo i danio’r ffwrneisi haearn, ac roedd digonedd ohono yng nglofeydd ardal Pontypridd. Ond cloddio’n ddwfn am lo ager oedd yr hwb mwyaf a gafodd datblygiad Pontypridd. Roedd angen glo ager yr ardal ar gyfer llongau’r Llynges Brydeinig. Cytunai pobl ar draws y bydd nad oedd gwell glo i’w gael. Glofa’r Great Western, Trehopcyn a Glofa’r Albion, Cilfynydd, oedd y cyntaf i godi glo ager. Agorodd Pyllau’r Ddinas ym 1841, ac am gryn ganrif wedyn y diwydiant glo oedd brif gynhaliaeth Pontypridd.
Fel pentrefi glofaol y cafodd llawer o bentrefi Pontypridd eu codi ar y dechrau. Cafodd Trehopcyn ei chodi o gwmpas Glofa’r Ty Mawr, a agorodd ym 1848. Dim ond chwe mlynedd cyn hynny, cefn gwlad dawel a diarffordd oedd yr ardal, ond roedd newid yn dod ar garlam. Rhan o ystad 51 erw Evan Hopkin.
Newidiodd yr ardal yn fuan. Cafodd pyllau’u suddo ar gyfer Glofa’r Great Western neu’r Cyfeillion (1851 – 1983) a hen Lofa’r Ty Mawr (1848 – 1983). Daeth ffyrnau golosg, gwaith cemegol, a ffowndri haearn yn sgîl y rhain yn fuan. Byddai angen gweithwyr ar bob diwydiant, a byddai’r gweithwyr angen rhywle i fyw. Dechreuodd pentref dyfu, gyda’r rhes gyntaf o dai yn cael ei galw’n Rhondda Road. Ymddangosodd Trehopcyn yn swyddogol gyntaf fel Hopkin’s Town, yng nghyfrifiad 1871.
Tyfodd poblogaeth Trehopcyn yn fuan drwy ail hanner y 19eg ganrif. Cafodd ychwaneg o strydoedd eu hadeiladu, ac erbyn 1900 roedd y boblogaeth wedi tyfu i dua 3,000. Yr un yw patrwm y strydoedd yn fras i ffurf y pentref ganrif yn ol.
|