Geiriau a genir ar dOn Cwm Rhondda

Ann Griffiths 1776 – 1805


Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd
Wrthddrych teilwng o fy mryd;
Er o’r braidd ‘rwy’n Ei abnabod
Ef uwchlaw gwrthrychau’r byd;
Henffych fore! Henffych fore!
Caf ei weled fel y mae
Caf ei weled fel y mae

Rhosyn Saron yw Ei enw,
Gwyn a gwridog, hardd Ei bryd!
Ar ddeng mil y mae’n rhagori
O wrthddrychau penna’r byd;
Ffrind pechadur! Ffrind pechadur!
Dyma’r llywydd ar y môr
Dyma’r llywydd ar y môr

Beth sydd imi mwy a wnelwyf
Ag eilunod gwael y llawr?
Tystio ‘r wyf nad yw eu cwmni
I’w gymharu a’m Iseu Mawr.
O, am aros! O, am aros!
Yn Ei gariad ddyddiau foes
Yn Ei gariad ddyddiau foes

Peter Williams 1723 – 1796

Arglwydd, arwain trwy’r anialwch, 
Fi, bererin gwael ei wedd, 
Nad oes ynof nerth na bywyd 
Fel yn gorwedd yn y bedd: 
Hollalluog, Hollalluog,
Ydyw’r Un a’m cwyd i’r lan. 
Ydyw’r Un a’m cwyd i’r lan. 

Agor y ffynhonnau melus
’N tarddu i maes o’r Graig y sydd; 
Colofn dân rho’r nos i’m harwain, 
A rho golofn niwl y dydd; 
Rho i mi fanna, Rho i mi fanna,
Fel na bwyf yn llwfwrhau 
Fel na bwyf yn llwfwrhau 

Pan yn troedio glan lorddonen,
Par i’m hofnau suddo i gyd;
Dwg fi drwy y tonnau geirwon
Draw i Gannan – gartref clyd;
Mawl diderfyn, Mawl diderfyn
Fydd i’th enw byth am hyn
Fydd i’th enw byth am hyn.

Cwm Rhondda

Arglwydd, arwain trwy’r anialwch, 
Fi bererin gwael ei wedd, 
Nad oes ynof nerth na bywyd 
Fel yn gorwedd yn y bedd: 
Hollalluog
Hollalluog 
Ydyw’r Un a’m cwyd i’r lan. 
Ydyw’r Un a’m cwyd i’r lan. 

Colofn dân rho’r nos i’m harwain, 
A rho’r golofn niwl y dydd; 
Dal fi pan bwy’n teithio’r mannau 
Geirwon yn fy ffordd y sydd: 
Rho imi fanna, 
Rho imi fanna,
Fel na bwyf yn llwfrhau, 
Fel na bwyf yn llwfrhau. 

Agor y ffynhonnau melus 
’N tarddu i maes o’r Graig y sydd; 
Colofn dan rho’r nos i’m harwain, 
A rho golofn niwl y dydd; 
Rho i mi fanna
Rho i mi fanna 
Fel na bwyf yn llwfwrhau, 
Fel na bwyf yn llwfwrhau. 

Pan fwy’n myned trwy’r Iorddonen— 
Angeu creulon yn ei rym, 
Ti est trwyddi gynt dy hunan, 
P’am yr ofnaf bellach ddim? 
Buddugoliaeth,
Buddugoliaeth, 
Gwna imi waeddi yn y llif! 

Ymddiriedaf yn dy allu, 
Mawr yw’r gwaith a wnest erioed: 
Ti gest angau, Ti gest uffern, 
Ti gest Satan dan dy droed: 
Pen Calfaria, 
Pen Calfaria, 
Nac aed hwnnw byth o’m cof,
Nac aed hwnnw byth o’m cof.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Untitled Document