Cynhysgaeth John Hughes.
Ym mis Mai 1910, daeth copiau o Cwm Rhondda ac emyn-donau eraill gan John Hughes i law’r Frenhines Alexandra, ac anfonodd hi air o ddiolch ato. Cydiodd Cwm Rhondda yng nghalonnau pobl ar draws y byd. Enillodd ei phlwyf ym myd chwaraeon a hamdden yn ogystal ag yn yr eglwysi.
Ond, er mor boblogaidd oedd Cwm Rhondda gyda’r cyhoedd yng Nghymru, tueddai rhai o arweinwyr Anghydffurfiol yr oes i wgu ar y don. Gan ei bod mor boblogaidd ar y cae chwarae, teimlai rhai o’r hoelion wyth ei bod yn anaddas mewn addoldy.
Yn ol yr Archdderwydd Elfed, (y Parch. Elvet Lewis, Gweinidog y Tabernacl, King’s Cross), nid oedd lle i Cwm Rhondda yn y llyfrau emynau, gan fod pobl yn ei chanu wrth wylio pel-droed neu yn y bws i lan y mor. Tebyg oedd condemniad y Parch. D. Ivor Jones, Blaenafon, o’r don. Enillodd ei ymosodiad yn Festri’r Pasg sylw eang.
Roedd Cwm Rhondda yn dod yn ffefryn pennaf ymhlith dilynwyr y campau. Pan ddaeth Arsenal i chwarae yn Abertawe ym 1926, mynnai rhai o’r papurau’u bod wedi colli am fod y gwylwyr wedi dechrau canu Cwm Rhondda. Pan ddaeth tîm rygbi Iwerddon i chwarae yng Nghaerdydd ym 1924 ym mhresenoldeb Tywysog Cymru, dyna’r emyn a ganodd y dorf o 50,000.
Ar Fehefin 22, 1918, cafodd gwasanaeth Gosber arbennig ei gynnal yn Abaty Westminster i godi arian at Gronfa Genedlaethol Pwyllgor Carcharorion Rhyfel Cymru. Ymhlith y gynulleidfa roedd David Lloyd George, y Frenhines Mary, ac aelodau eraill o’r Teulu Brenhinol. Cafodd John Hughes wahoddiad i’r gwasanaeth, ond fe wrthododd. Gadawyd ei gadair yn wag. Yn ol un adroddiad, teimlai John Hughes yn rhy nerfus i eistedd ymhlith mawrion gwlad. Taerai adroddiad arall ei fod yn anfodlon gwisgo’r het a dillad crand gofynnol! Er gwaetha’r gadair wag roedd y dôn wedi ennill lle yng nghalonnau’r gynulleidfa ac fe ysgrifennodd llawer o fawrion gwledydd Prydain at John Hughes i ddiolch iddo. Anfonodd organydd Abaty Westminster, E.S. Roper, lythyr ato i fynegi’i bleser a’i edmygedd.
Erbyn hyn roedd galw mawr am wasanaeth John Hughes fel arweinydd, yn enwedig pan oedd Cwm Rhondda yn cael ei pherfformio’n gyhoeddus. Ceisiai osgoi cyhoeddusrwydd os oedd modd, ac ni charai frolio’i waith o gwbl. Er hyn fe gymerodd ran mewn nifer o achlysuron enwog.
Ar Fai 18fed 1927 fe arweiniodd ef gor o ddwsin o lowyr 159 llath o dan y ddaear, yn ‘Dan’s Muck Hole’, fel yr adweinid Glofa Pwllgwaun, Pontypridd. Roedd Cwm Rhondda yn rhan o’r cyngerdd wrth gwrs, yn ogystal a’r dôn boblogaidd Y Delyn Aur. Canwyd Hen Wlad fy Nhadau ar y diwedd. Cafodd yr achlysur ei ddarlledu ar 5WA, yr orsaf radio gyntaf yng Nghymru. Yn cyfeilio roedd B. Gregory Evans RCM. Nododd y Western Mail fod y glowyr wedi canu â lleisiau cyfoethog yn llawn angerdd.
Daeth y Tywysog Sior (Dug Caint yn ddiweddarach) i ymweld â baddondai Cwm-parc, ger Treorci, un tro. Roedd y twrn dydd wedi tyrru i mewn yno, a dyna hwy’n bwrw ati dan arweiniad Arthur Morgan i ganu Cwm Rhondda i gyfeiliant y dwr o’r cawodydd.
Bu digwyddiad rhyfedd yn Eisteddfod Genedlaethol Treorci ym 1928, pan oedd David Lloyd George a’i wraig Megan wedi cyrraedd yn hwyr oherwydd damwain car. Yno gyda Llywyddion yr Eisteddfod, y Cyrnol Waters, Scranton, a’r Gwir Anhrydeddus J.H. Thomas YH, roedd Stanley Baldwin, Prif Weinidog Prydain ar y pryd. Yn hollol ddirybudd fe ddechreuodd nifer o Gomiwnyddion, oedd yn niferus iawn yn y Maerdy a phentrefi eraill y Rhondda ar y pryd, chwifio baneri a galw am berfformio Y Faner Goch ar lwyfan y Pafiliwn. Llwyddodd yr arweinydd. W. Morgan Evans, i wrthsefyll y gwrthdystiad drwy alw ar y gynulleidfa i ganu Cwm Rhondda i Stanley Baldwin. Cyn hir roedd 20,000 o bobl yn ei dyblu hi yn ddigon cryf i foddi’r gân chwyldroadol.
Derbyniodd John Hughes nifer o lythyrau am Cwm Rhondda gan aelodau o’r lluoedd arfog. Dywedent gymaint roedd yr emyn wedi lleddfu’u hiraeth ymhell oddi cartref.
Yn ei lythyrm esboniodd y Cyrnol E.O.Scaiffe y byddai Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn canu’r emyn-don ym Mrwydr Khartwm. Nododd lltyhyr arall y byddai’r Fyddin Diriogaethol yn ei chanu hi hefyd wrth iddi geisio cipio Palesteina.
Dyna’r gan oedd ar wefusau’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig wrth iddynt fynd i’r gyflafan yng Nghoed Mametz yn ardal y Somme. Dyna’r darn olaf o gerddoriaeth a glywodd llawer ohonynt. Daeth llawer o filwyr i Don-teg i ddweud wrtho sut roeddent wedi clywed yr emyn yn y ffosydd. Weithiau, ar noson dawel, byddent yn clywed lleisiau’r Almaenwyr yn canu Cwm Rhondda ar draws Tir Neb.
Pan aeth Dr. Joseph Bowen a’r Clerwyr Brenhinol Cymreig ar daith i’r Unol Daleithiau, rhoesant berfformiad yng Ngharchar Talaith Utah. Roedd dau garcharor croenddu yn aros i gael eu dienyddio ar y pryd, a gofynnodd y Cymry iddynt pa emyn a garent ei chlywed. Am Cwm Rhondda y gofynnodd y ddau.
Anfonodd y cyfansoddwr Dr. Daniel Protheroe sawl gwahoddiad i John Hughes arwain mewn cymanfaoedd yn yr Unol Daleithiau, ond gwrthod pob un a wnaeth John. Gwell ganddo ef osgoi gormod o gyhoeddusrwydd.
Er hyn fe dderbyniodd wahoddiad i arwain yr emyn mewn cyfres o wyliau cerdd mawreddog ar draws y De. Deuai degau o filoedd o bobl i wrando.
Ar Fehefin 22ain1930 fe drefnodd y South Wales Echo Wyl Gerdd ym Mhafiliwn Parc y Rhath, Caerdydd. Roedd Ronald Chivers yn arwain Band Teml y Rhath ar gyfer cynulleidfa o 30,000.
Bu’r Wyl yn gymaint o lwyddiant nes penderfynu gynnal un arall ym Mharc Coffa Rhyfel Ynysangharad, Pontypridd. Madam Jennie Ellis, enillydd llu o eisteddfodau, oedd yr unawdydd, ac roedd W. Griffithas yn arwain Band 5ed fataliwn y Gatrawd Gymreig. Y Pwyllgor Parciau, a Chynghrair Eglwysi Cristnogol Pontypridd a’r Cylch, oedd yn gyfrifol am y gwaith trefnu. Arweinydd yr Wyl oedd B. Gregory Evans, Pontypridd, a fu ar un adeg yn cynorthwyo Daniel Protheroe, Chicago.
Yng Nghasnewydd, ym Mharc y Ffawydd, y bu’r drydedd wyl lle cafodd John Hughes arwain Cwm Rhondda. Unwaith eto, y South Wales Echo oedd yn trefnu. D. Brinley Williams a Chymdeithas Cerddoriaeth Casnewydd oedd yn arwain y canu, gyda’r unawdydd tenor Robert Ivory. Bandiau Casnewydd Byddin yr Iachawdwriaeth oedd yn cyfeilio. Esboniodd John Hughes mewn llythyr i’r South Wales Echo ei fod yn fwy na pharod i gefnogi’u gwaith da wrth gynnal y gwyliau. Braint, meddai, oedd cael y cyfle yma. Os nad oedd pobl yn fodlon canu mawl, rhaid mynd â’r moliant atynt. Byddai’r effeithiau’n cyrraedd ymhell.
Er nad yw llawer o’i weithiau eraill wedi dal eu tir, mae Cwm Rhondda yn dod yn fwy poblogaidd o flwyddyn i flwyddyn. Erbyn hyn fe’i cenir mewn rhyw wyth deg o ieithoedd. Fe’i cenir yn eang yn Unol Daleithiau America. Ymhlith y geiriau mwyaf poblogaidd y mae Come Ye Saints Look Here and Wonder a God of Grace and God of Glory. Er bod Cwm Rhondda wedi ennill ei lle mewn eglwys a chapel ar draws y byd, nid oes gwadu’r lle cynnes sydd i’r don yng nghalonnau cefnogwyr rygbi – yn enwedig rai Cymru. Mae Cwm Rhondda i’w chlywed ar gaeau rygbi mawr y byd, gydag angerdd sy’n dod yn syth o galon y genedl. Dyma dôn sydd wedi concro’r byd.
Pan ddaeth How Green Was My Valley i’r sgrîn fawr ym 1941, roedd cor Cymraeg i’w glywed ar y trac sain yn canu Wele’n Sefyll Rhwng y Myrtwydd. Maureen O’Hara a Walter Pidgeon oedd sêr y ffilm arobryn yma, oedd wedi’i seilio ar nofel enwog Richard Llewellyn. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, roedd Cwm Rhondda i’w glywed unwaith yn rhagor ar y sgrîn fawr. Y tro yma, God of Grace and God of Glory oedd y geiriau, yn ffilm Humphrey Bogart The African Queen.
Cafodd ei chanu ar nifer o achlysuron cyhoeddus yn ein hamser ni. Dyma’r emyn adeg agor Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd, a mynnai’r Gwir Barchedig Rowan Williams ei chlywed wrth gael ei orseddu’n Archesgob Caergaint. Mae’r Teulu Brenhinol hefyd yn hoff o Cwm Rhondda. Cafodd ei chanu mewn dau angladd, sef un y Dywysoges Diana ym mis Medi 1997, ac un y Fam Frenhines yn mis Ebrill 2004.
Pan fydd un o gorau mawr Cymru yn canu, bydd Cwm Rhondda yn rhan o’r arlwy bob tro. Mae Cor Meibion Pendyrus wedi’i chanu yn y Cremlin, Cor Orpheus Treforys yn Neuadd Carnegie, ac mae Côr Meibion Treorci wedi codi cynnulleidfa Ty Opera Sydney i’w thrae droeon. Mae Katherine Jenkins, Bryn Terfel, Aled Jones, llawer o wahanol unawdwyr eraill wedi recordio Cwm Rhondda. Mae un addasiad diweddar wedi’i throi’n anthem roc!
Prin fod yr un emyn-dôn arall wedi ennill cymaint o gariad mewn cymaint o wledydd â Cwm Rhondda. Wrth inni ddathlu canmlwyddiant Cwm Rhondda yn 2007, cofiwn taw yn Nhon-teg y cafodd John Hughes yr ysbrydoliaeth i’w chanu. Bellach, mae’r nodau a drawodd ef i lawr wedi atseinio i bedwar ban byd.
Dyma anthem sy wedi ennill y dydd ar y cae chwarae, yn yr eglwys a’r capel, ac ar y llwyfan a’r sgrin. A dyma’r anthem sy’n mynegi holl ysbryd, angerdd, a chyffro eneidiau’r Cymry. Ganrif ar ôl ei chyfansoddi, mae nodau Cwm Rhondda i’w clywed ar draws y byd. Gallwn fod yn sicr y bydd pobl yn canu’r emyn-dôn fawreddog hon ymhen canrif arall. Dyma gynhysgaeth wych John Hughes i’w wlad, cynhysgaeth a fydd gyda ni tra bo’r byd.
|