JOHN HUGHES.


Cafodd John Hughes ei eni ar 24ein Tachwedd 1873 yn Ivor Street, Dowlais. Symudodd ei deulu i Lanilltud Faerdref flwyddyn yn ddiweddarach. Yno y treuliodd John weddill ei fywyd.

Ar ol i’w dad, Evan Hughes, ymgartrefu yn Llanilltud Faerdref cafodd ei ethol yn ddiacon ac yn godwr canu yn Salem, Eglwys y Bedyddwyr Cymraeg yno. Nid yw’r dyrchafiad hwn yn syndod, gan fod Evan yn elwa ar gefndir cerddorol cyfoethog. Roedd Evan yn ganwr ac yn ffidler talentog, a bu’n chwarae ym mand llinynnol Eglwys yr Undodiaid yng Nghefncoed. Gymaint oedd ei ddylanwad ar ei fab fel bod John wedi amlygu diddordeb mewn cerddoriaeth yn ifanc iawn. Prynodd Evan harmoniwm i John ym Mhontlotyn, a daeth yr offeryn i lawr i Don-teg ar gambo. Dechreuodd John ymddiddori mewn cyfansoddi yn ogystal ag mewn perfformio.

John oedd yr hynaf o’r wyth o blant a gafodd Evan Hughes a’i wraig Ellen. Dyma’u henwau a’u galwedigaeth yn ol cyfrifiad 1901: John (clerc glofa), 26 oed; David Williams (peiriannydd), 22 oed; Thomas Evan (clerc rheilffordd), 20 oed; James (clerc mewn cyngor), 16 oed; Benjamin (bachgen ysgol), saith oed; Mary Ellen, 10 oed; Henry, saith oed; ac Alfred, pump oed.

12 oed oedd John, ac yntau’n dechrau yn y gwaith glo. Gweithiai fel dryswr bach yng Nglofa’r Gelynnog, nepell o’i gartref. Roedd John yn gyfrifol am agor a chau’r drysau mawr ar hyd y ffyrdd tanddaearol a arweiniai at y ffas. Byddai’r gwaith hwn yn beryglus iawn ar adegau. Roedd y drysau hyn yn rhan anhepgor o system awyru’r lofa. Roeddent yn fodd i reoli’r llif aer drwy lefelydd y lofa.

Ac yntau’n dal yn grwt ifanc, daliodd John Hughes y teiffoid drwy yfed dwr o nant. Er iddo wella wedyn, fuodd e byth yn ddigon cryf eto i weithio dan ddaear.

Ond yn y diwydiant glo yr arhosodd John am weddill ei fywyd. Maes o law, fe gafodd ei benodi yn glerc yng Nglofa’r Great Western, ger Pontypridd. Safai’r lofa yn agos i’r capel lle byddai John Hughes yn cyflwyno perfformiad cyntaf yr enwocaf o’i holl gyfansoddiadau.

Ac yng Nghapel Salem ar Awst 16eg, 1905, yntau’n 31 oed, y priododd John Hughes a Hannah Maria David, Ton-teg, merch y signalwr Caradoc David. Cafodd y par ddau o blant, Gwyn a Dilys. Fel ei dad, cafodd Gwyn ei ethol yn ddiacon ac yn godwr canu yn Salem.

Bu John Hughes yn aelod yn Salem am weddill ei oes. Yn sgîl dilyn ei dad fel diacon ac fel codwr canu, enillodd le blaenllaw ym mywyd cerddorol Pontypridd a’r cylch. Dechreuodd drwy gyfansoddi emyn-donau yn arbennig i gynulleidfa Eglwys y Deml, y Graig, Pontypridd. Cyflwynai emynau i Gymanfaoedd Canu’r Ysgolion Sul hefyd.

Yn nes ymlaen, cafodd ei gyflwyno i Rhedynog Price G.T.S.C. Caerdydd. Ganddo ef y cafodd John wersi theori a harmoni, yn ogystal a help i ennill Tystysgrif Uwch o’r Coleg Tonig Sol-ffa. Bu’r cymorth hwn yn sylfaen gadarn i addysg gerddorol y cerddor dawnus ifanc. Adeiladodd ar hyn i greu gyrfa gerddorol lwyddiannus mewn blynyddoedd diweddarach.

Gwr gwylaidd a diymhongar oedd John, ond er mor ifanc ydoedd ym 1909, fe dderbyniodd anerchiad goliwiedig gan Gôr Undebol Bedyddwyr Pontypridd, i ddiolch iddo am ei waith fel ysgrifennydd mygedol eu Cymanfaoedd Canu. Mae Gwasg y cyfnod yn cynnwys nifer o deyrngedau brwd iddo o’r cyfnod am ei waith fel organydd, arweinydd, a chyfansoddwr.

Cwm Rhondda yn ddiau yw’r enwocaf o’i weithiau i gyd. Ond dylen ni gofio iddo gyfansoddi llu o emyn-donau eraill, anthemau, a chaneuon. Aeth llawer o’i emynau llai adnabyddus yn angof erbyn hyn, ond ar y pryd roeddent yn ffefrynnau gan gynulleidfaoedd o Fon i Fynwy.

Cyfansoddodd John Hughes gryn hanner cant o donau, gan gynnwys sawl ymdeithgan Ysgol Sul, cân i blant, alaw gwerin, ac emyn cynulleidfaol. Tueddai i’w henwi ar ol ei blant, perthnasau eraill, neu’i hoff leoedd. Yn eu plith ceir Frondeg, Darlun Fy Mam, Milwyr Seion, Yr Ysgol Sul, Moliant Plant, Y Sanctaidd Lu, O Argwlydd Fy Nuw, Bethlehem, Ton-teg, Llanilltyd, Gwyn, Dilys, Dan-y-graig, Ceridwen a Thregarth.

Ysgrifennai John ei donau gartref mewn llyfr copi fel arfer, er bod rhai traddodiadau yn mynnu iddo ysgrifennu darnau o gerddoriaeth ar ochr dramiau glo yn y lofa. Mae’n debyg iddo wahodd caredigion cerdd yn y lofa i feirniadu’r darnau. Os oedd darn yn dderbyniol gan y glowyr, byddai John yn ei ysgrifennu ar bapur a’i anfon at bwyllgor cymanfa ganu. Os nad oedd y brodyr yn fodlon, câi’r dram ei thynnu i ffwrdd. Fe âi’r gerddoriaeth annerbyniol ar goll dan lwch y glo.

Ni chafodd John Hughes fyw i fod yn hen. Gadawodd oes o waith yn y diwydiant glo ei ôl ar ei iechyd bregus. Ar ol ychydig ddyddiau o salwch ym mis Mai 1932, bu farw ar y 14eg. Roedd e’n 58 oed.

Diwrnod oer a gwlyb oedd hi, a gorymdaith angladd John Hughes yn ymlwybro drwy Don-teg. Heidiodd dynion y dref i’r strydoedd yn eu dillad parch a’u hetiau bowler i ganu Cwm Rhondda wrth i’r arch fynd heibio ar ei ffordd i Gapel Salem.

Roedd rhai o gerddorion mwyaf blaenllaw’r De yno’n galaru. Ymhlith y galarwyr roedd Gwilym T. Jones, sylfaenydd ac arweinydd Côr Meibion Pontypridd, a’r Dr. J.C.R. Morgan, arweinydd Llantrisant a’r Cylch. Daeth Cyfrinfa Trisant y Seiri Rhyddion i ddangos eu parch hefyd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Untitled Document