‘Wele’n sefyll rhwng
y myrtwydd’

John Hughes a hanes cyfansoddi
Cwm Rhondda


John Hughes, Trehopcyn, oedd cyfansoddwr Cwm Rhondda. Cyfansoddoddy dôn ym 1907 ar gyfer Capel Rhondda yn y pentref hwnnw, sy’n agos i Bontypridd.

Aeth canrif heibio oddi ar berfformiad cyntaf Cwm Rhondda, ac mae Cymry ledled y byd yn dal i arddel y dôn yn ail anthem genedlaethol answyddogol. Wrth inni ddathlu Cwm Rhondda, rydym yn rhoi clod i dreftadaeth wych ein gwlad hefyd. I bobl ym mhedwar ban byd, dyma emyn-dôn gynulleidfaol sy’n arwydd digamsyniol o wlad ei chyfansoddi. Cwm Rhondda yn anad un dôn arall sy’n mynegi hwyl y Cymry. Beth yw Cymru ichi? Gwlad y Gân? Cartref campau’r bêl hirgron – er mor sigledig fo’r rhieny ein dyddiau ni? P’un bynnag fo’ch barn, bydd y dôn fywiog, drawiadol hon wedi gadael ei hôl ar galonnau’r Cymry.

Enillodd Cwm Rhondda ei blwy ar y cae chwarae yn ogystal ag ar y llwyfan cyngerdd. Boed gyda’r geiriau Wele’n sefyll neu Bread of Heaven, mae’r dôn wedi ennill calonnau chwaraewyr, perfformwyr, a chynulleidfaoedd fel ei gilydd. O’i pherfformiad cyntaf mewn capel bach yn y Cymoedd, mae Cwm Rhondda wedi ennill parch a bri ar draws y byd.

Untitled Document