|
Cliciwch yma i gael gweld yr arddangosfa...
Y Chwiorydd Bacon
Dyma frasluniau o waith dwy chwaer, Emma a Lucy Bacon, wyresau Anthony Bacon, sef y g?r a sefydlodd Waith Haearn Cyfartha, Merthyr Tudful. Mae’r gweithiau’n dyddio o’r 1820au hwyr ac yn perthyn i gasgliad o ryw 80 o frasluniau a dynnodd y ddwy chwaer dros gyfnod o ryw ddwy flynedd
Er bod y mwyafrif o’r lluniau â theitlau; dim ond yr ychydig o luniau hynny sydd wedi’u llofnodi mae modd eu dynodi nhw’n waith i Emma neu Lucy. Golygfeydd o ardal Aberaman yw’r lluniau at ei gilydd. Serch hynny, mae rhai lluniau’n cynnwys rhannau eraill o Forgannwg.
Mae’r lluniau’n perthyn i gyfnod pan oedd cynnydd mawr yn y diddordeb yng nghefn gwlad gwledydd Prydain ac roedd gwaith arlunwyr topograffig megis Gastineau, Hastings, Radclyffe, J.P Neale a David Cox yn cael eu cyhoeddi fesul cannoedd.
Roedd y diddordeb sydyn yn nhirwedd gwledydd Prydain yn deillio o’r chwyldro mawr ar gyfandir Ewrop ac yn rhan o’r Mudiad Rhamantaidd yn ystod y18fed ganrif. O ddechrau’r 18fed ganrif hyd at gyfnod rhyfeleodd Napoleon, roedd teithiau uchelwyr wedi magu diddordeb yn nhirwedd a hanes y cyfandir. Doedd hi ddim yn anarferol i deithwyr gadw dyddiadur a llyfr braslunio o’u teithiau neu - os doedden nhw ddim yn arlunwyr o fri - i gyflogi arlunydd i fynd ar y daith gyda nhw.
Aeth pethau ar chwâl pan ymledodd yr ymladd ar draws Ewrop. O ganlyniad i hynny, roedd ardaloedd mwy gwyllt gwledydd Prydain yn fannau poblogaidd iawn ymhlith y teithwyr cynnar hyn. Roedd Cymru, gyda’i chestyll anghysbell, adfeilion rhyfedd a’i golygfeydd garw yn gyrchfan poblogaidd iawn, fel yr oedd Ardal y Llynnoedd yng ngogledd Lloegr. Yn ogystal ag ail ennyn diddordeb yn y tirwedd, roedd twf yn y diddordeb yngl?n â hanes gwledydd Prydain yr un pryd. Roedd y lluniau’n aml yn cael eu cynnwys newn cyhoeddiadau, a oedd yn rhannol yn lyfrau teithio ac yn rhannol yn lyfrau ar hynafiaethau.
Er mai er ei mwynhâd nhw’u hunain cynhyrchodd y ddwy chware y gwaith a’u bod heb eu cyhoeddi yn ystod eu hoes nhw, maen nhw’n perthyn i’r traddodiad rhamantaidd o gelf topograffeg yn ystod y 19eg ganrif . Mae’r lluniau’n dangos cwm sydd heb ei gyffwrdd gan ddiwydiant trwm. Dim ond cyrn simnai Gwaith Haearn Aber-nant yng nghefndir sawl llun sy’n awgrymu’r newid mawr sydd ar fin digwydd. Dyma gipolwg ar dirwedd sydd heb newid llawer dros y blynyddoedd. Mynyddoedd coediog, afonydd a phorfeydd gleision. Tirwedd a ddisgrifiodd un teithiwr ym 1807 yn un o’r mwyaf ffrwythlon a phrydferth ym mynyddoedd Morgannwg.
Cliciwch yma i gael gweld yr arddangosfa .. .
Dewch i weld rhai o weithiau celf a chrefft mwyaf cyfoes Cymru yn rhan o raglen o arddangosfeydd newidiol ëSpaceí
Cliciwch yma i gael gweld yr arddangosfa...
|